AIM email to Welsh members August 2022

Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol NRW

Mae AIM yn gyffrous i gyhoeddi bod yr ail gylch ceisiadau wedi agor ar gyfer Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol i Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yng Nghymru. Fel canlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis ar sail y ceisiadau a’r budd y gellir ei ddangos i’r unigolion a’u sefydliadau.  Dyddiad cau: 17 Awst 2022, 5yh.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor ac i ymgeisio>> 

AIM Higher

Boed yn adolygu arfer da sylfaenol neu yn delio gyda heriau cymhleth, mae ein rhaglen gymorth llywodraethu AIM Higher (yr enw newydd i Prospering Boards) yn cynnig y cyfle i weithio gydag un o’n rhestr o ymgynghorwyr profiadol ac arbenigol.  Mae ceisiadau yn awr ar agor.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy >>

Straeon Newydd, Cynulleidfaoedd Newydd

Mae Rownd 2 o Straeon Newydd, Cynulleidfaoedd Newydd wedi agor ar gyfer ceisiadau tan 31 Hydref. Bydd y cynllun, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn helpu i amgueddfeydd bach adrodd stori newydd, denu cynulleidfa newydd, a gweithio gyda phartner newydd, i weithio’n wahanol ac i geisio rhywbeth newydd. Mae aelodau amgueddfeydd bach AIM (â hyd at 20,000 o ymwelwyr y flwyddyn) yng Nghymru yn gymwys i ymgeisio.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor >> 

Message from Victoria Rogers, Pennaeth Amgueddfeydd a Chasgliadau – Is-adran Diwylliant, Llywodraeth Cymru 

Dw i’n chwilio am astudiaethau achos gan amgueddfeydd Cymru i’w rhannu mewn cynhadledd byddaf yn mynychu yn yr hydref.

Byddwn yn ddiolchgar iawn os allwch roi wybod i mi os ydych yn gwneud unrhyw waith yn ymwneud â’ch gweithgarwch masnachol a chynhyrchu incwm sy’n cysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol neu’r Rhaglen Lywodraethu.

Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio gyda grwpiau cymunedol amrywiol i greu eitemau i’w gwerthu yn eich siopau; hyrwyddo eich gwaith i gynulleidfaoedd penodol ac yn gweld ymateb positif mewn ymweliadau gan y grwpiau hyn; creu strategaethau tocynnau sy’n ystyried annog y rhai sydd o dan anfantais i gael mynediad at eich gwasanaethau; rhoi blaenoriaeth i gyflenwyr/artistiaid lleol yn eich siop a’ch caffis, ac ati.

Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau – dw i wir eisiau clywed am gamau bach yn ogystal â phrosiectau sy’n taro’n fawr!

e-bost: victoria.rogers@gov.wales