Cylchlythyr ymddiriedolwyr AIM Ebrill 2022

Cynefino ymddiriedolwyr

Mae ein sesiwn cynefino poblogaidd i ymddiriedolwyr amgueddfeydd yn ôl, o 5.30yh – 7.30yh ar 16 a 31 Mai.

Mae’r gweithdai hyn yn gyflwyniad hanfodol ac ymarferol i lywodraethu amgueddfeydd ac arfer da i lywodraethwyr newydd, neu yn weithdy gloywi i ymddiriedolwyr profiadol. Bydd y sesiynau yn rhyngweithiol ac yn ennyn brwdfrydedd, ac yn rhoi cyfle i chi rwydweithio ag ymddiriedolwyr eraill yn ogystal â’ch galluogi i fod yn weithredol ac i gyfrannu’n gyflymach ac yn fwy effeithiol at eich amgueddfa.

Cost y cynefino yw £150 i aelodau AIM a £200 i bobl nad ydynt yn aelodau.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor ac i archebu lle >>

Astudiaeth achos – Auchindrain

Daeth Auchindrain at AIM ar ôl i berthynas wael â’u noddwr gael effaith negyddol ar dîm yr amgueddfa. Gan weithio gyda Ruth Lesirge, ymgynghorydd Prospering Boards, darganfyddwyd hyder newydd gan y tîm, sydd wedi trawnewid eu hagwedd a’u safbwynt. Cawsom sgwrs â Bob Clark, Cyfarwyddwr Auchindrain, i ddarganfod mwy.

Cliciwch yma i wylio’r astudiaeth achos>>

Astudiaeth achos – Barnsley Museums & Heritage Trust

Wrth edrych ar gydnerthedd Barnsley Museums and Heritage Trust (BMHT) mewn ymateb i’r pandemig, daeth materion ynghylch amrywiaeth a chynllunio ar gyfer olyniaeth i’r amlwg o fewn y Bwrdd presennol o Ymddiriedolwyr. Er mwy mynd i’r afael â’r materion hyn, a chryfhau’r bwrdd a chefnogi cynaliadwyedd y dyfodol, daeth BMHT at Prospering Boards AIM am gymorth. Dywedodd yr Ymddiriedolwr Catherine Longley wrthym sut oedd y cymorth hwn wedi galluogi i’r Bwrdd adlewyrchu’r buddiolwyr ac ymwelwyr yn fwy.

Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos>>

Hallmarks Gartref

Mae ein digwyddiadau Hallmarks Gartref i gyd ar agor i ymddiriedolwyr aelodau o AIM. Cymerwch gipolwg ar ein hamserlen digwyddiadau ac archebwch le. Mae’r digwyddiadau i gyd yn ddi-dâl i’w mynychu ac yn digwydd ar Zoom.

Cliciwch yma i weld yr Hallmarks Gartref sydd wedi eu trefnu>>

Swyddi gwag ymddiriedolwyr

Gweler gwefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr gan aelodau AIM ar draws y DU. A byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut y gallwch hysbysebu eich swyddi gwag ymddiriedolwyr eich hun gydag AIM.

Cliciwch yma ar gyfer y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr>>