Cylchlythyr ymddiriedolwyr AIM Gorffennaf 2022

Deddf Elusennau 2022

Cafodd Deddf Elusennau 2002 gydsyniad brenhinol ar ddiwedd Chwefror. Mae ein harbenigwyr llywodraethu Hilary Barnard a Ruth Lesirge o HBRL Consulting wedi paratoi crynodeb defnyddiol, yn dangos beth fydd y newidiadau allweddol yn eu golygu i elusennau amgueddfeydd a’r camau sydd angen i chi eu cymryd yn awr.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor am Ddeddf Elusennau 2022>>

Astudiaeth Achos – Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod

Pan agorodd Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod ar ôl y pandemig gyda golwg ffres, teimlodd Ymddiriedolwyr fod angen adolygu’r trefniadau llywodraethu er mwyn eu gwneud yn briodol i wasanaethu cymunedau’r amgueddfa, rhai lleol ac i dwristiaid o bell. Mae Julie Evans, Ymddiriedolwr yn Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod, yn egluro sut mae golwg annibynnol ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi bod yn fanteisiol o ran agor y drafodaeth am anghenion y Bwrdd yn y dyfodol.

Cliciwch yma i ddarllen yr astudieth achos>>

AIM Higher

Boed yn adolygu arfer da sylfaenol neu yn delio gyda heriau cymhleth, mae ein rhaglen gymorth llywodraethu AIM Higher (yr enw newydd i Prospering Boards) yn cynnig y cyfle i weithio gydag un o’n rhestr o ymgynghorwyr profiadol ac arbenigol.  Mae ceisiadau yn awr ar agor.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy >>

Cynefino ymddiriedolwyr

Mae ein sesiwn cynefino poblogaidd i ymddiriedolwyr amgueddfeydd yn ôl, o 5.30yh – 7.30yh ar 1 & 15 Tachwedd.

Mae’r gweithdai hyn yn gyflwyniad hanfodol ac ymarferol i lywodraethu amgueddfeydd ac arfer da i lywodraethwyr newydd, neu yn weithdy gloywi i ymddiriedolwyr profiadol. Bydd y sesiynau yn rhyngweithiol ac yn ennyn brwdfrydedd, ac yn rhoi cyfle i chi rwydweithio ag ymddiriedolwyr eraill yn ogystal â’ch galluogi i fod yn weithredol ac i gyfrannu’n gyflymach ac yn fwy effeithiol at eich amgueddfa.

Cost y cynefino yw £150 i aelodau AIM a £200 i bobl nad ydynt yn aelodau.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor ac i archebu lle >>

Swyddi gwag ymddiriedolwyr

Gweler gwefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr gan aelodau AIM ar draws y DU. A byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut y gallwch hysbysebu eich swyddi gwag ymddiriedolwyr eich hun gydag AIM.

Cliciwch yma ar gyfer y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr>>