Stay in touch with the latest news from AIM and get information on sector grants, jobs and events with our free fortnightly E-News.
Cylchlythyr Ymddiriedolwyr AIM Gorffennaf 2023
AIM Higher
Boed yn adolygu arfer da sylfaenol neu yn delio gyda heriau cymhleth, mae ein rhaglen gymorth llywodraethu AIM Higher (yr enw newydd i Prospering Boards) yn cynnig y cyfle i weithio gydag un o’n rhestr o ymgynghorwyr profiadol ac arbenigol. Mae ceisiadau yn awr ar agor. Cliciwch yma i ddarganfod mwy >>
Astudiaethau achos Llywodraethu
Manteisio ar Ddata – yn dilyn archwiliad llywodraethu, nodwyd cyfle gan dîm Amgueddfa Bywyd Milwrol Cumbria, i wella llywodraethu trwy fanteisio’n fwy ar ddata gan ddefnyddio dangosfwrdd. Daeth Alex Lindley, fel rhan o raglen Higher AIM i helpu’r tîm i ddeall y data sydd ar gael a sut i’w ddefnyddio orau. Cewch glywed rhagor gan y Cadeirydd, Andrew Dennis a Rheolwr yr Amgueddfa, Jules Wooding. Gwyliwch yr astudiaeth achos>>
Llywodraethu strategol – mae cymorth gan AIM Higher wedi helpu Bwrdd Amgueddfa Tenbury Wells i ailfeddwl eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Cewch ddarllen rhagor am ein trafodaeth gyda Tracey Morris i ddarganfod mwy am y cynllun strategol newydd a sefydlwyd er mwyn cyrraedd nodau’r Bwrdd yma>>
Recriwtio ieuenctid – mae cael Ymmddiriedolwr Ieuenctid ar y Cyngor Rheoli wedi disgleirio goleuni hollol wahanol ar waith Amgueddfa Waterworks Henffordd. Mae Jill Phillips, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwr Llywodraethu yn egluro sut y cafodd Ymddiriedolwr Ieuenctid ei recriwtio a sut y gallwch wneud rhywbeth tebyg yn eich amgueddfa chi. Darllenwch ragor yma>>
Cynefino Ymddiriedolwyr – cadwch y dyddiad yn rhydd
Mae ein cwrs cynefino poblogaidd i ymddiriedolwyr yn ôl ar 21 Tachwedd & 5 Rhagfyr! Mae’n cynnig y cyfle i ymddiriedolwyr newydd, a rhai sy’n newydd i’r sector amgueddfeydd i ddysgu’r elfennau hanfodol o lywodraethu amgueddfeydd, i wella llywodraethu yn eich amgueddfa a rhwydweithio gydag eraill mewn rôl debyg. Bydd y manylion cyflawn yn cael eu cyhoeddi ar wefan AIM yn fuan. Cliciwch yma i ddarganfod mwy>>
Swyddi gwag ymddiriedolwyr
Gweler gwefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr gan aelodau AIM ar draws y DU. A byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut y gallwch hysbysebu eich swyddi gwag ymddiriedolwyr eich hun gydag AIM. Cliciwch yma ar gyfer y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr>>