Cylchlythyr ymddiriedolwyr AIM Mai 2022

AIM Higher

Boed yn adolygu arfer da sylfaenol neu yn delio gyda heriau cymhleth, mae ein rhaglen gymorth llywodraethu AIM Higher (yr enw newydd i Prospering Boards) yn cynnig y cyfle i weithio gydag un o’n rhestr o ymgynghorwyr profiadol ac arbenigol.  Mae ceisiadau yn awr ar agor.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy >>

Cynefino ymddiriedolwyr

Mae ein sesiwn cynefino poblogaidd i ymddiriedolwyr amgueddfeydd yn ôl, o 5.30yh – 7.30yh ar 1 & 15 Tachwedd.

Mae’r gweithdai hyn yn gyflwyniad hanfodol ac ymarferol i lywodraethu amgueddfeydd ac arfer da i lywodraethwyr newydd, neu yn weithdy gloywi i ymddiriedolwyr profiadol. Bydd y sesiynau yn rhyngweithiol ac yn ennyn brwdfrydedd, ac yn rhoi cyfle i chi rwydweithio ag ymddiriedolwyr eraill yn ogystal â’ch galluogi i fod yn weithredol ac i gyfrannu’n gyflymach ac yn fwy effeithiol at eich amgueddfa.

Cost y cynefino yw £150 i aelodau AIM a £200 i bobl nad ydynt yn aelodau.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor ac i archebu lle >>

Swyddi gwag ymddiriedolwyr

Gweler gwefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr gan aelodau AIM ar draws y DU. A byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut y gallwch hysbysebu eich swyddi gwag ymddiriedolwyr eich hun gydag AIM.

Cliciwch yma ar gyfer y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr>>