Cylchlythyr Ymddiriedolwyr AIM Mawrth 2021

Rhaglen Byrddau sy’n Ffynnu ar agor ar gyfer ceisiadau

Rydym yn hapus i agor ein rhaglen gymorth llywodraethu Byrddau sy’n Ffynnu i geisiadau newydd.
Pa un a ydych yn ystyried adolygu arfer da neu ddelio gyda heriau cymhleth, mae’r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i weithio gydag un o’n rhestr o ymgynghorwyr arbenigol profiadol. Cewch ymgeisio ar gyfer dau ddiwrnod o gymorth arlein a bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar sail treigl tra bod cyllido ar gael. Cliciwch yma am ragor o fanylion>>

Cynefino ymddiriedolwyr newydd

Mae’r gweithdai cynefino yn gyflwyniad hanfodol ac ymarferol i lywodraethu amgueddfeydd ac arfer da i ymddiriedolwyr newydd neu yn sesiynau diweddaru ar gyfer pobl sydd eisoes yn ymddiriedolwyr. Bydd y sesiynau hyn yn rhyngweithiol, yn ddiddorol ac yn darparu dulliau gweithredu i’w defnyddio gennych chi a’ch bwrdd wrth wella llywodraethu eich amgueddfa.

Nodwch os gwelwch yn dda, y bydd y sesiynau yn cael eu darparu yn Saesneg. Cliciwch yma i ddarganfod rhagor ac i archebu lle>>

Astudiaethau achos llywodraethu

Byddwn yn clywed gan Val Gates, ymddiriedolwr yn Amgueddfa Ilfracombe, am newid syml i reoli eu llif arian, sydd wedi cael effaith fawr ar eu rheolaeth ariannol. A bydd Liz Power, Cyfarwyddwr Amgueddfa Dŵr a Stêm Llundain, yn dweud wrthym am eu profiad o Fyrddau sy’n Ffynnu, sydd wedi creu Bwrdd cryfach a mwy effeithiol. Cewch ddarllen yr astudiaethau achos yma>>

 Astudiaethau achos Hallmarks

Mae Hallmarks AIM o Amgueddfeydd sy’n Ffynnu yn nodi ac yn hyrwyddo priodoleddau nodweddiadol o sefydliadau treftadaeth llwyddiannus. Darllenwch yr astudiaethau achos grantiau Hallmarks diweddaraf gan dderbynyddion Amgueddfa ac Oriel Gelf St Barbe a Markfield Beam Engine. Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaethau achos>>

Canlyniadau Arolwg

Diolch i bawb sydd wedi cwblhau ein harolwg ymddiriedolwyr; mae’r adborth yn barod wedi bod yn ddefnyddiol iawn i lywio beth y mae AIM yn ei wneud i gefnogi ymddiriedolwyr amgueddfeydd. Darllenwch am beth rydym yn ei wneud o ganlyniad i’ch adborth>>

Swyddi gwag ymddiriedolwyr

Gweler y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr yn amgueddfeydd sy’n aelodau o AIM, a darganfyddwch sut i hysbysebu eich swyddi gwag eich hun ar ein gwefan. Gweler y manylion yma>>