Cylchlythyr Ymddiriedolwyr AIM Rhagfyr 2021

Astudiaeth Achos Llywodraethu – National Tramway Museum

Derbyniwyd cymorth ymgynghorol gan y National Tramway Museum gan raglen Byrddau sy’n Ffynnu AIM yn gynharach eleni. Cawsom ni drafodaeth â Karen Rigg, Cadeirydd y Tramway Museum Society, i ddarganfod sut yr oedd mewnbwn ymgynghorydd allanol yn cefnogi adolygiad llywodraethu ehangach.

Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos>>

Diogelu ac amddiffyn pobl i elusennau ac ymddiriedolwyr

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei ganllawiau ar ddiogelwch arlein o fewn y Canllawiau Diogelu a ddiweddarwyd yn ddiweddar. Dylai pob ymddiriedolwr, boed yn gweithio arlein neu yn bersonol, gymryd camau rhesymol i ddiogelu rhag niwed y bobl sydd yn dod i gysylltiad â’ch elusen. Mae hyn yn berthnasol i bob elusen, nid yn unig y rhai sydd yn gweithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed, felly dylech dreulio digon o amser i sicrhau bod eich elusen yn cydymffurfio â’r canllawiau, yn enwedig ble’r ydych yn gweithredu gwasanaeth arlein neu swyddogaeth sgwrsio/anfon negeseuon arlein, yn cynnal cyfarfodydd arlein a/neu â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y diweddariad hwn a beth mae’n ei olygu i chi>>

Dylai amddiffyn pobl a chyfrifoldebau diogelu fod yn flaenoriaeth lywodraethu i bob elusen. Mae canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar ddiogelu ar gael yma>>

Mae llawer o ganllawiau defnyddiol ar wefan yr NSPCC yma>>

Mae gan yr NVCO ganllawiau defnyddiol ar eu gwefan hefyd. Cliciwch yma>>

Hallmarks Gartref

Mae Hallmarks Gartref cyntaf 2022 yn awr ar agor i aelodau AIM archebu lle . Mae pob digwyddiad yn cael eu cynnal ar ZOOM ac maent i gyd yn ddi-dâl i chi eu mynychu:

  • 12 Ionawr – O iaith i arfer; gweithio’n foesegol gyda chymunedau a chasgliadau byd-eang – mae’r sesiwn gyfranogol hon yn ddelfrydol i unrhyw un sydd yn meddwl am ymgeisio ar gyfer grant Hallmark Taclo Anghydraddoldebau AIM
  • 19  Ionawr   – Sut i ysgrifennu cais swydd da
  • 26  Ionawr  – Gwirfoddoli : Ailfeddwl a diweddaru
  • 9 Chwefror – Rheoli archifau

Cliciwch yma i ddarganfod mwy ac i archebu lle >>

Swyddi gwag i ymddiriedolwyr

Gweler gwefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr gan aelodau AIM ar draws y DU. Cewch hefyd ddod o hyd i fanylion ar sut i hysbysebu eich swyddi gwag eich hun i ymddiriedolwyr gydag AIM.

Cliciwch yma ar gyfer swyddi gwag i ymddiriedolwyr >>