Cylchlythyr Ymddiriedolwyr Medi 2022

Archebwch yn awr – cwrs cynefino ymddiriedolwyr

Os ydych yn ymddiriedolwr newydd, neu yn newydd i’r sector amgueddfeydd, archebwch le ar ein cwrs cynefino ymddiriedolwyr dwy-ran sydd yn digwydd ar 1 a 15 Tachwedd. Mae’r cwrs cynefino yn gyflwyniad hanfodol ac ymarferol i lywodraethu amgueddfeydd ac arferion gorau i’ch llywodraethwyr newydd, neu yn gwrs gloywi i’ch ymddiriedolwyr presennol. Mae’r sesiynau yn rhyngweithiol, yn rhoi dulliau defnyddiol i chi eu gweithredu’n syth, ac hefyd yn gyfle i chi rwydweithio gydag ymddiriedolwyr newydd eraill.

£150 i aelodau AIM a £200 i bobl nad ydynt yn aelodau.

Cliciwch yma i archebu>>

Rhestr wirio hunan-asesu llywodraethu NCVO

Mae’r olwyn lywodraethu o NCVO (Cyngor Cenedlaethol i Sefydliadau Gwirfoddol) yn ddull gweithredu syml sydd yn helpu i fyrddau sefydliadau gwirfoddol gael synnwyr cyflym o ba mor dda y maent yn gweithredu ac yn cyflawni eu rolau. Bydd cwblhau’r olwyn yn rhoi argraff weledol yn syth o ba fath o siâp sydd ar eich bwrdd. Mae’r olwyn lywodraethu yn cysylltu â’r Cod Llywodraethu Elusennau a gellir defnyddio hyn fel pwynt cychwyn ar gyfer adolygiadau sy’n seiliedig ar y Côd.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r olwyn lywodraethu>>

Hallmarks Gyda’n Gilydd

Mae AIM wrth ein bodd i lansio cyfres o ddigwyddiadau gyda phobl yn mynychu yn bersonol – Hallmarks Gyda’n Gilydd. Mae sesiynau Hallmarks Gyda’n Gilydd yn cynnwys gweithdy ar bwnc sy’n perthyn i Hallmarks AIM, gydag amser ar gyfer rhwydweithio strwythuredig ac anffurfiol a diweddariad gan dîm AIM.

Mae’r cyntaf o’r digwyddiadau newydd hyn yn digwydd ar Ddydd Iau 20 Hydref yn y Story Museum yn Rhydychen. Gwahoddir ymddiriedolwyr i ymuno â ni ar gyfer gweithdy ar ymgymryd ag Adolygiad Busnes craidd, a gyflwynir gan Judy Niner o Development Partners.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy ac i archebu lle>>

Hallmarks Gartref

Mae amserlen yr Hydref ar gyfer Hallmarks Gartref yn awr yn fyw gyda llefydd yn agor i’w harchebu. Mae’r sesiynau hyn yn ddi-dâl i’w mynychu, yn digwydd ar Zoom ac yn agored i ymddiriedolwyr amgueddfeydd sy’n aelodau o AIM.

  • 21 Medi – Cynnull amgueddfeydd ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd
  • 5 Hydref – Cynllunio eich marchnata
  • 2 Tachwedd – Dehongli amgueddfeydd llwyddiannus
  • 16 Tachwedd – Gofal o gasgliadau diwydiannol

Cliciwch yma i archebu eich lle>>

Swyddi Gwag i Ymddiriedolwyr

Gallwch weld y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr mewn amgueddfeydd ar draws y DU, neu os ydych yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd, gall aelodau AIM hysbysebu eu swyddi gwag ar wefan AIM yn ddi-dâl.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy>>

I amgueddfeydd yng Nghymru

Gyda diolch i gyllid gan Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru, rydym wrth ein bodd i gynnig y cyfleoedd canlynol yn ddi-dâl i ymddiriedolwyr amgueddfeydd Cymru:

  • Cwrs cynefino ymddiriedolwyr i amgueddfeydd yng Nghymru – gweithdy dwy-ran ar 24 Ionawr a 7 Chwefror. Mae’r sesiynau rhyngweithiol hyn yn gyflwyniad hanfodol ac ymarferol i lywodraethu amgueddfeydd ac arferion gorau i ymddiriedolwyr newydd, neu yn gwrs gloywi i ymddiriedolwyr presennol. Cliciwch yma i ddarganfod mwy ac i archebu lle>>
  • Cynllunio ar gyfer olyniaeth i lywodraethwyr amgueddfeydd yng Nghymru – mae’r rhaglen fer hon yn canolbwyntio ar Hallmark AIM: Llywodraethu ac yn cefnogi amgueddfeydd i ystyried pob elfen o arfer da wrth gynllunio ar gyfer olyniaeth ymddiriedolwyr. Mae’r rhaglen arlein hon yn cyflenwi cymysgedd o gymorth dwys i garfan fach o chwech amgueddfa, gan ddechrau o ddiwedd mis Hydref. Cliciwch yma i ddarganfod mwy>>
  • AIM Higher – mae llywodraethu da yn allweddol i sicrhau bod amgueddfeydd yn llwyddiannus ac yn effeithiol ond gall ymddiriedolwyr weithiau deimlo’n frawychus. Mae AIM yn cynnig cymorth ymarferol ac uniongyrchol i helpu i’ch bwrdd a’ch amgueddfeydd ffynnu. Mae gennym gyfleoedd ymgynghori i ddwy amgueddfa yng Nghymru, cliciwch yma i ddarganfod mwy>>