Cylchlythyr Ymddiriedolwyr Treftadaeth AIM – Awst 2021

Cynefino ymddiriedolwyr newydd

Yn dilyn llwyddiant ein cwrs cynefino cyntaf ar gyfer ymddiriedolwyr amgueddfeydd, rydym yn cynnal y sesiynau eto o 5.30yh- 7.30yh ar Ddydd Mawrth 5 a Dydd Mawrth 19 Hydref. Cynhelir y sesiwn hon gan Hilary Barnard a Ruth Lesirge, awduron “Llywodraethu Llwyddiannus i Amgueddfeydd AIM” ac arbenigwyr cydnabyddedig mewn llywodraethu elusennau.

Bydd y sesiynau hyn yn rhyngweithiol, yn ddiddorol a byddent yn darparu’r dulliau gweithredu i chi a’ch bwrdd eu defnyddio er mwyn gwella llywodraethu eich amgueddfa.

Pris y cwrs cynefino yw £150 i aelodau AIM a £200 i bobl nad ydynt yn aelodau, ond cewch ymgeisio ar gyfer grant hyfforddi AIM os oes angen cymorth arnoch i dalu’r costau hyn.

Cliciwch yma i ddargangod rhagor ac i archebu lle >>

Hallmarks Gartref

Mae cyfres yr Hydref o Hallmarks Gartref ar agor i archebu lle yn awr ar gyfer aelodau AIM, gan gynnwys ymddiriedolwyr:

  • 2 Medi – Deall eich cynulleidfaoedd – Sut ydym yn ymgysylltu â’n hymwelwyr? Sut ydym yn casglu safbwyntiau a deall beth y maent yn eu dymuno a beth sydd angen arnynt? Mae Emma Parsons yn siarad am y broses o gasglu a dadansoddi data.
  • 15 Medi – Adolygiad busnes craidd – Os oes angen cynyddu eich incwm, mae’n syniad da i edrych ar beth ‘rydych yn ei wneud yn barod a sut i wella hyn, cyn defnyddio adnoddau ar gyfer gweithgareddau newydd, dan arweiniad Judy Niner.
  • 22 Medi – Cyflwyniad i ofal casgliadau – ehangu eich dealltwriaeth o weithgareddau gofal priodol o gasgliadau yn eich amgueddfa, a chynyddu eich hyder wrth fynd i’r afael â heriau gofal casgliadau.
  • 29 Medi – Rheoli archifau – Mae amgueddfeydd yn aml yn cadw casgliadau mawr o ddogfennau, effemera a ffotograffau. Bydd y sesiwn hon yn dangos wrthych sut i drefnu a dogfennu’r rhain.
  • 6 Hydref – Pwrpas: Darganfod eich pam – Dysgwch sut i greu pwrpas clir, cymhellgar ar gyfer eich amgueddfa gyda Hilary McGowan.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor ac archebu eich lle>>

 Cynllunio olyniaeth ar gyfer byrddau

Yng Nghyhadledd AIM 2021, cyflwynwyd sesiwn mewnweledol ar sut i reoli olyniaeth ymddiriedolwyr yn effeithiol gan Heather Lomas. Gan ddefnyddio enghreifftiau o amgueddfeydd y mae hi wedi gweithio gyda nhw yn ddiweddar, rhannwyd llawer o sïon sicr a chyngor ymarferol gan Heather. Os nad oeddech yn rhan o’r sesiwn yn y gynhadledd, rydym yn rhoi’r cyfle arbennig i chi wylio’r sesiwn hon yn ddi-dâl:

Cliciwch yma i wylio Cynllunio olyniaeth ar gyfer byrddau >>

Cynghrair Llywodraethu Diwylliannol

Mae’r Gynghrair Llywodraethu Diwylliannol (CGA) yn gasgliad gweddol anffurfiol o asiantaethau, sefydliadau ac eiriolwyr sydd yn gweithio’n strategol i eirioli, rhannu a hyrwyddo arfer da mewn llywodraethu diwylliant.

Ein gweledigaeth yw sector diwylliannol cryf a pherthnasol, gyda sefydliadau diwylliannol sydd yn perfformio ar eu gorau: i fod yn gryfach, yn fwy gwybodus, ac yn fwy parod a chymwys i arddangos rhagoriaeth mewn llywodraethu.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor am sut y gall CGA eich helpu chi>>

Canllaw Ymarferol i Lywodraethu

Mae’r Gynghrair Llywodraethu Diwylliannol (CGA) wedi diweddaru eu Canllaw Ymarferol yn ddiweddar, sydd yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth hanfodol, adnoddau pwrpasol a thempledi i’w lawrlwytho sydd yn mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am lywodraethu sefydliadau diwylliannol yn effeithiol.

Cliciwch yma i ddarllen y canllaw >>

Governance Now 2021

Mae 2021 yn gweld Governance Now yn dychwelyd am ei bedwaredd cynhadledd flynyddol ar gyfer ymddiriedolwyr a gweithwyr proffesiynol y sector, a gyflwynir i chi gan Clore Leadership a’r Gynghrair Llywodraethu Diwylliannol mewn perthynas ag Inc. Arts a Chyngor Celfyddydau Lloegr.

Mae cyfradd arbennig i aelodau o’r CGA ar hyn o bryd – mae hon ar gael tan ganol nos ar 30 Medi i unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd wedi cofrestru ar gyfer aelodaeth o’r CGA.

Cliciwch yma i gofrestru er mwyn archebu eich tocyn a chael mynediad i amserlen y digwyddiad hyd yn hyn>>

Swyddi gwag ymddiriedolwyr

Ewch at wefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf gan aelodau AIM ar draws y DU. A byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion am sut y gallwch hysbysu eich swyddi gwag ymddiriedolwyr chi gydag AIM.

Cliciwch yma ar gyfer swyddi gwag ymddiriedolwyr >>