Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol NRW 2022

Mae Rhaglen NRW Newydd i arweinwyr y dyfodol yng Nghymru yn digwydd yn ystod Ionawr a Chwefror 2022.

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi’r rhaglen 6-diwrnod hon i arweinwyr y dyfodol o Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yng Nghymru, gyda diolch i gyllid gan Adran dros Ddiwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru.

Bydd cyfranogaeth yn y rhaglen yn golygu eich bod yn rhan o garfan cryf o arweinyddiaeth sydd yn fwy hyderus am rannu heriau, caledi a llwyddiannau materion arweinyddiaeth gyfoes.

Dyma ail Raglen Arweinwyr y Dyfodol yr NRW, yn dilyn y rhaglen gyntaf a gynhaliwyd yn 2018 a oedd y llwyddiannus iawn. Cewch ddarllen rhagor am sut mae’r cyfranogwyr wedi manteisio o fod yn rhan o’r grŵp arweinyddiaeth yma>> 

Pwy sydd yn cael ymgeisio

Staff amgueddfeydd, archifau neu lyfrgelloedd. Mae 12 lle ar gael.

Bydd dewis y carfan yn cael ei wneud ar sail ceisiadau a manteision dangosadwy i’r unogolion a’u sefydliadau.

Y Rhaglen 

Mae pob sesiwn yn rhedeg rhwng 10yb – 12canol dydd ac 1.30yh – 3.30yh.

Bydd pob un o’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ar Zoom.

14 Ionawr 2022 Arwain ac ysgogi
21 Ionawr Sefydliadau diwylliannol fel busnesau
28 Ionawr Dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth
4 Chwefror Cynulleidfaoedd a marchnata
11 Chwefror Naratifau, rhaglenni a’r digidol
18 Chwefror Cydnerthedd, gwaith tîm a fi

Sut i ymgeisio

Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected] erbyn 26 Tachwedd 2021

Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen gais>>

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn 3 Rhagfyr 2021

Manylion cyswllt ar gyfer rhagor o wybodaeth

Dr Nick Winterbotham ar [email protected] neu 07775 774539.