DATE: 23 Jan 2025
LOCATION: Online
TIME: 10:00 – 12:30
Fframwaith yw Hallmarks AIM ar gyfer Amgueddfeydd sy’n Ffynnu, sydd yn dod â’r nodweddion allweddol at ei gilydd i helpu i sefydliadau treftadaeth ffynnu a llwyddo. Bydd y weminar yn sôn cam wrth gam am arfer da mewn amgueddfeydd a sut y mae hyn yn cysylltu at baratoi am achrediad, sydd yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n newydd i’r sector, a phobl sydd eisiau diweddariad ar arfer da. Cynhelir y sesiwn gan Emma Chaplin, gweithiwr amgueddfa profiadol uchel ei pharch a chyn-gyfarwyddwr o AIM.
Bydd y sesiwn yn rhoi’r canlynol i chi:
- Dealltwriaeth o beth yw Hallmarks AIM
- Y cyfle i ystyried sut y mae Hallmarks AIM yn berthnasol i’ch amgueddfa
- Cyfle i archwilio sut y gellir defnyddio’r hallmarks yn effeithiol, e.e. ar gyfer cynllunio, hunan-asesu, meincnodi, i gefnogi ceisiadau cyllido a.y.b.
Sesiwn ddi-dâl yw hon, yn arbennig i amgueddfeydd yng Nghymru, ond nid oes angen i chi fod yn aelod o AIM i fynychu. Mae’n digwydd ar Zoom, o 10yb – 12.30yh ar Ddydd Iau 23 Ionawr.
Cliciwch yma i archebu eich lle rhad ac am ddim (opens in a new tab)Gwesteiwr y Weminar
Mae Emma Chaplin yn weithiwr amgueddfa profiadol uchel ei pharch a oedd yn arwain Cymdeithas Annibynnol yr Amgueddfeydd o 2018-21. Datblygwyd busnes ymgynghori llwyddiannus ganddi o 2009-18, gan adeiladu ar rolau uwch-reoli a churadurol mewn amgueddfeydd annibynnol ac awdurdod lleol. Nodweddir ei gwaith gan ynni, proffesiynoldeb a gwybodaeth ddwys o’r sector treftadaeth a’i rwydweithiau. Mae hi wedi ail-lansio ei busnes ymgynghori ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda chleientiaid ar heriau rheoli casgliadau, ceisiadau cyllido a gwaith datblygu busnes tra yn gweithio hefyd gyda Museum Development North fel Cynghorydd Cynllun Achredu ar gyfer amgueddfeydd yng Ngogledd-orllewin Lloegr a Gorllewin a De Swydd Efrog. www.emmachaplin.co.uk