Stay in touch with the latest news from AIM and get information on sector grants, jobs and events with our free fortnightly E-News.
Re:Collections consultants / Ymgynghorwyr rhaglen Re:Collections
Find out more about the consultants who are supporting the Re:Collections programme. Scroll down for English.
Mae Isilda Almeida yn Ymgynghorydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ac yn fyfyriwr Gwyddoniaeth Treftadaeth ym Mhrifysgol Brighton. Trwy gydol ei gyrfa mae Isilda wedi gweithio yn y Weinyddiaeth Ddiwylliant (Portiwgal), Amgueddfa Blentyndod (Victoria ac Albert), Amgueddfa Docklands Llundain, Swyddfa Cofnodion Dwyrain Sussex, a Theatr Gwyl Chichester, ymysg eraill. Mae hi’n brofiadol ym maes ymgysylltiad cynulleidfaoedd, cynllunio strategol, a rheoli prosiect ac yn angerddol iawn am gefnogi amgueddfeydd i wneud eu gwasanaeth yn fwy cynhwysol a pherthnasol i gymunedau, yn enwedig cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu yn ddigonol.
Mae Isilda yn cynllunio ac yn cyflenwi rhaglenni ac ymgynghoriaeth Tegwch, i sefydliadau cymorth diwylliannol a sector megis Rhwydwaith Dawns Sussex; Artswork; Rhaglenni Datblygu Amgueddfeydd ar draws y DU, ac eraill. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr o Amgueddfa Ditchling o Gelf a Chrefft, ac yn fentor ar gyfer Straeon Newydd Cynulleidfaoedd Newydd AIM a Rhaglenni AIM Higher, yn Gydymaith Sefydliad yr Amgueddfeydd ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
Mae Stephen Welsh yn guradur, ymgynghorydd ac ymarferydd diwylliannol llawrydd, sydd yn arbenigo mewn cefnogi amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth i ymwreiddio cyd-greu, i amrywiaethu penderfynu, a blaenoriaethu dyheadau cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu yn ddigonol.
O 2007 tan 2020, roedd Stephen yn Guradur Diwylliannau Byw ac yn Ddirprwy Bennaeth Dros Dro o Gasgliadau yn Amgueddfa Manceinion, rhan o Brifysgol Manceinion. Yn y rôl hon, roedd e’n gyfrifol am wella mynediad y gymuned i gasgliad o dros 18,000 o eitemau treftadaeth ddiwylliannol o’r Affrig, America, Asia ac ardal y Môr Tawel, ac mewn partneriaeth â’r Australian Institute of Aboriginal or Torres Strait Islander Studies, ef oedd yn arwain ailwladoli diamod 43 o eitemau treftadaeth ddiwylliannol i gymunedau Brodorol. Cyn hynny, roedd yn guradur prosiect yn gweithio ar ddatblygu a chyflenwi Amgueddfa Gaethwasiaeth Ryngwladol, yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl o 2005 i 2007.
Ers 2016, mae e wedi bod yn aelod o bwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i’r Gogledd, ac yn 2021, cafodd ei benodi fel ymddiriedolwr i Homotopia, gwyl ddiwylliannol a chelfyddydol LHDTCRA+ hynaf y DU. Roedd yn aelod o banel cynghori’r prosiect Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dynoliaethau tuag at Hwb GLAM Cynhwysol o 2021 i 2022 ac mae Stephen hefyd wedi eistedd ar bwyllgorau ar gyfer Rhwydwaith Arbenigwyr Pwnc Diwylliannol Celf a Deunydd Islamaidd, a Grŵp Ethnograffwyr Amgueddfa.
Curadur/hanesydd ac actifydd yw Raj Pal. Gyda gyrfa hir o weithio yn y sector diwylliannol mewn amrywiaeth o rolau, mae e erbyn hyn yn guradur/ymgynghorydd llawrydd ac wedi gweithio ar brosiectau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Treftadaeth Lloegr a sefydliadau treftadaeth eraill.
Dros y blynyddoedd diweddar, mae Raj wedi arwain ymyraethau curadurol treftadol ‘heriol’ mewn llefydd mor amrywiol â Kedleston Hall, sedd teulu Lord Curzon, Viceroy i India 1899-1904, Chartwell House, cartref Winston Churchill, a Chastell Powys, sedd teulu Arglwydd Clive o India, ac Amgueddfeydd ac Ymddiriedolaeth Chiswick House, ac mae’r rhain i gyd wedi canolbwyntio ar newid diwylliannol drwy ail-ddychmygu casgliadau presennol ac adnoddau dynol.
Yn 2022 cafodd yr arddangosfa arbennig o lwyddiannus “Blacklash: No justice, no peace” ei gyd-guradu yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham gan Raj, ac ef hefyd oedd yn curadu “Soho House Mural Project” yn Soho House, Birmingham.
Gan ddefnyddio ei wybodaeth a’i sgiliau i ganolbwyntio ar annog newid diwylliannol trwy guradu fel bod sefydliadau yn dechrau i adlewyrchu amrywiaeth trwy eu hallbynnau, mae Raj hefyd yn gynghorydd curadu i brosiect uchelgeisiol Palas Fulham i archwilio i rôl Esgobion Llundain mewn gwladychiaeth Brydeinig a’r fasnach gaethweision drawsiwerydd, ac mae’n arwain tîm o guradurwyr sydd yn ail-arddangos eu casgliadau fel rhan o ail-ddatblygiad uchelgeisiol o The Harris, Preston. Mae Raj yn awdur, llefarydd ac yn ddarlledwr rheolaidd ar faterion diwylliannol.
Mae Louise Emerson wedi gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol ac uwch reolwr yn y Sector Diwylliannol am dros 25 mlynedd ac roedd hi hefyd yn Bennaeth Busnes a Strategaeth Masnachol yn Amgueddfa Hanes Naturiol am 10 mlynedd, yn arwain ar ddatblygu brand a rheoli newid arwyddocaol.
Sefydlwyd Take the Current gan Louise yn 2017 i helpu i sefydliadau addasu a gwneud newidiadau sydd yn cynyddu eu cynaliadwyedd a’u perthnasedd. Mae hyn yn aml yn golygu meddwl yn wahanol, cynyddu hunan-ymwybyddiaeth a dysgu.
Mae Louise yn gweithio gyda sefydliadau ar eu strategaeth a chynllunio busnes; ail-ffocws a newid sefydliadol; cynhyrchu incwm a chodi arian a datblygu cynulleidfaoedd a Byrddau. Mae hi’n ymrwymedig i gymdeithas o gydraddoldeb, a rhoi cymorth i sefydliadau wrth gwestiynu eu rhagdybiaethau, prosesau ac ymddygiad a’u helpu i baratoi ar gyfer newid.
Mae hi wedi gweithio gyda nifer o aelodau o AIM ers 2020 ar y rhaglen Straeon Newydd Cynulleidfaoedd Newydd, ac wedi cyflenwi gweminarau ar gyfer y Cynghrair Treftadaeth a Sefydliad Marchnata’r Celfyddydau.
Mae hi’n ymgyngorydd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn Hyfforddwr a Mentor achrededig (ymarferydd lefel uwch EMCC), yn ymgynghorydd Help to Grow ac yn mentora gydag AMA, Prifysgolion Warwick, Leeds a Kingston, y GIG ac mae ganddi MBA.
Rhwydwaith i bobl o liw sydd yn gweithio mewn amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd a’r sector treftadaeth yn y DU yw Museum Detox. Eu blaenoriaeth yw cefnogi llesiant aelodau Detox.
Mae aelodau o Museum Detoxe yn grymuso ei gilydd i wella, i ymddwyn fel pwy ydynt, ac i ailhawlio eu hanes. Maent ar y cyd yn dysgu dulliau i weithredu hunanofal a gofal yn y gymuned, gweithredu ar y cyd a chydsefyll. Drwy hunansylweddoli, maent yn ysbrydoli sector amgueddfeydd a threftadaeth ddiwylliannol mwy teg.
Mae Museum Detox yn gwneud hyn i’n gilydd, ein cynulleidfaoedd, a’r gymuned ehangach.
Isilda Almeida is an Equity, Diversity and Inclusion (EDI) Consultant and a PhD Heritage Science student at the University of Brighton. Throughout her career Isilda has worked at the Ministry of Culture (Portugal), Museum of Childhood (Victoria & Albert), Museum of London Docklands, East Sussex Record Office, Chichester Festival Theatre, among others. She is experienced in audience engagement, strategic planning, project management and is very passionate about supporting museums to make their service more inclusive and relevant to communities, particularly underserved audiences.
Isilda designs and delivers Equity programmes and consultancy, for cultural and sector support organisations such as Sussex Dance Network; Artswork; Museum Development Programmes across the UK, and others. She is also a Trustee of Ditchling Museum of Art + Craft, a mentor for AIM New Stories New Audiences and AIM Higher programmes, an Associate of the Museums Association and a Fellow of the Royal Society of Arts.
Stephen Welsh is a freelance curator, consultant, and cultural practitioner specialising in supporting museums and heritage organisations to embed co-creation, diversify decision-making, and prioritise the aspirations of underserved communities.
From 2007 until 2020, he was the Curator of Living Cultures and Acting Deputy Head of Collections at the Manchester Museum, part of the University of Manchester. In this role, he was responsible for improving community access to a collection of over 18,000 cultural heritage items from Africa, America, Asia, and the Pacific, and in partnership with the Australian Institute of Aboriginal or Torres Strait Islander Studies, he led the unconditional repatriation of 43 cultural heritage items to Aboriginal communities. Prior to this, he was a project curator working on the development and delivery of the International Slavery Museum, National Museums Liverpool, from 2005 to 2007.
Since 2016, he has been a committee member for the National Lottery Heritage Fund North, and in 2021 he was appointed as a trustee for Homotopia, the UK’s longest-running LGBTQIA+ arts and culture festival. He served as an advisory panel member for the Arts and Humanities Research Council project Towards an Inclusive GLAM Hub from 2021 to 2022 and has also sat on committees for the Islamic Art and Material Culture Subject Specialist Network and the Museum Ethnographers Group.
Raj Pal is a curator/historian and activist. With a long career of having worked in the cultural sector in various capacities, he is now a freelance curator/consultant and has worked on projects at the National Trust, English Heritage and other heritage institutions.
In the last few years, Raj has successfully led “contested” heritage curatorial interventions at places as varied as Kedleston Hall, family seat of Lord Curzon, Viceroy to India 1899-1904, Chartwell House, home of Winston Churchill and Powys Castle, family seat of Lord Clive of India, Chiswick House Museums and Trust, all of which have focused on bring about cultural change through re-imaging existing collections and human resources. In 2022 Raj co-curated the hugely successful “Blacklash: No justice, no peace” exhibition at Birmingham Museums & Art Gallery and curated the “Soho House Mural Project” at Soho House, Birmingham.
Using his knowledge and skills to focus on bringing about cultural change through curation so that institutions can begin to reflect diversity through their outputs, he is also curatorial advisor to Fulham Palace Trust’s ambitious project to explore the role of the Bishops of London in British colonialism and the transatlantic slave trade and is leading a team of curators re-displaying its collections as part of an ambitious re-development of The Harris, Preston. Raj is a regular writer, speaker and broadcaster on cultural issues.
Louise Emerson has worked at CEO and senior management level in th Cultural Sector for over 25 years and was Head of Business and Commercial Strategy at the Natural History Museum for 10 years leading on brand development and significant change management. Louise set up Take the Current in 2017 to help organisations to adapt and make changes that increase their sustainability and relevance. This often involves thinking differently, increasing self-awareness and learning.
Louise works with organisations on their strategic and business planning; organisational refocus and change; income generation and fundraising and development of audiences and Boards. She is committed to an equal society, and assisting organisations to interrogate their assumptions, processes and behaviours and support them to prepare and plan for change. She has worked with several AIM members since 2020 and on the AIM New Stories New Audiences programme as well as delivering webinars for The Heritage Alliance and Arts Marketing Association.
She is a National Lottery Heritage Fund consultant, an accredited Coach and Mentor (senior level practitioner EMCC), a Help to Grow consultant and mentors with AMA, Universities of Warwick, Leeds and Kingston, NHS and has an MBA.
Museum Detox is a network for people of colour who work in the museums, galleries, libraries and heritage sector in the UK. Their priority is to support the wellbeing of Detox members.
Museum Detoxers empower and support each other to heal, to be themselves and to reclaim their history. They collectively learn ways to practice self and community care, collective action and solidarity. Through self-actualisation, they inspire a more equitable museums and cultural heritage sector.
Museum Detox do this for each other, our audiences, and society at large.
Click here to go back to the Re:Collections programme page>>