Tegwch a Chynhwysiant i Amgueddfeydd

Agor trafodaethau a gosod sylfaen ar gyfer tegwch a chynhwysiant yn eich hamgueddfa

Gan weithio mewn partneriaeth â NoBarriers, nod y rhaglen hon yw cefnogi amgueddfeydd yng Nghymru a Lloegr i wella eu dealltwriaeth o Degwch a Chynhwysiant. Bydd y rhaglen yn cynyddu gwybodaeth a sgiliau cyfranogwyr o ran materion sy’n perthyn i Degwch a Chynhwysiant a wynebir gan bobl sydd yn gweithio ac yn gwirfoddoli mewn amgueddfeydd, eu cymunedau a’u cynulleidfaoedd. Byddai’n eich cefnogi i gael trafodaethau yn eich hamgueddfa ac wrth osod sylfeini cryf ar gyfer gweithredu.

Bydd y canlynol yn ganlyniadau o’r rhaglen:

  • Bydd sefydliadau sy’n cyfranogi yn arddangos dealltwriaeth gyson o Degwch a Chynhwysiant a sut mae hyn yn perthyn i’w cynulleidfaoedd, gweithlu (cyflogedig a gwirfoddol), llywodraethu a’u rhaglenni
  • Bydd cyfranogwyr yn teimlo’n hyderus am yr iaith bresennol i’w defnyddio wrth drafod Tegwch a Chynhwysiant
  • Bydd cyfranogwyr yn nodi materion a rhwystrau mewnol ac allanol sydd yn perthyn i Degwch a Chynhwysiant ac yn datblygu’r sgiliau i fynd i’r afael â nhw
  • Bydd cyfranogwyr yn arddangos cynnydd mewn hyder wrth drafod materion a phynciau anodd
  • Bydd cyfranogwyr yn deall ffyrdd o wella recriwtio, mynediad a chyfranogaeth yn eu hamgueddfa ac yn datblygu cynllun i fynd i’r afael â’r rhain
  • Bydd cyfranogwyr yn nodi’r heriau a/neu rwystrau o fewn eu sefydliad sydd yn perthyn i Degwch a Chynhwysiant ac yn datblygu cynllun i fynd i’r afael â’r rhain
  • Bydd cyfranogwyr yn cynnwys y gweithlu ehangach wrth ddatblygu’r cynlluniau hyn ar Degwch a Chynhwysiant.

Mae’r rhaglen yn cynnwys 10 sesiwn arlein sydd yn cael eu cynnal o Dachwedd 2021 i Fawrth 2022, ac yn cefnogi 20 sefydliad o ar draws y saith ardal sydd yn cyfranogi: Dwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Ddwyrain Lloegr, Gogledd Orllewin Lloegr, De Orllewin Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Chymru.

Am NoBarriers

Mae NoBarriers yn cyflenwi dulliau gweithredu wedi eu teilwra i gynyddu arfer cynhwysol a theg yn y sector diwylliannol, gan gynnwys hyfforddiant, cyngor, cynllunio strategol, adolygu gwasanaethau ac ymgysylltu cymunedol.

Mae Isilda Almeida, sefydlydd NoBarriers, yn gweithio fel Ymgynghorydd Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y sector diwylliannol ac yn dod â dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector treftadaeth y DU gyda hi.

Bydd Isilda yn cael ei chefnogi gan Maurice Davies, sydd â bron i 40 blynedd o brofiad mewn amgueddfeydd ac orielau’r DU fel gwneithurwr polisi, arweinydd a churadur. Mae e wedi ymgyrchu dros degwch a chynhwysiant ers y 1990au pan oedd yn olygydd Museums Journal. Mae e wedi cynghori sefydliadau fel Awdurdod Llundain Fwyaf, Cyngor Cenedlaethol Cyfarwyddwyr Amguedddfeydd a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar agweddau o dreftadaeth a hîl. Yn ddiweddar mae wedi wedi helpu Museum Detox gydag adolygiad sefydliadol, a gydag Isilda, wedi cyflawni hyfforddiant ar amgueddfeydd a datrefedigaethu.

Rhwng y ddau ohonynt, mae Isilda a Maurice yn dod â chyfoeth o wybodaeth, profiad proffesiynol a phrofiad bywyd a dulliau gweithredu presennol i Degwch a Chynhwysiant, yng nghyd-destun digwyddiadau hanesyddol a gwleidyddol sydd wedi siapio sut y mae amgueddfeydd wedi cyrraedd ble y maent heddiw.

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio ar gyfer rheolwyr, ymddiriedolwyr a phenderfynwyr sydd yn gweithio mewn amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth sydd yn:

  • Frwd i flaenoriaethu gwella tegwch a chynhwysiant yn eu sefydliad
  • Ymrwymedig i adolygu eu gwaith ar Degwch a Chynhwysiant
  • Agored i ffyrdd newydd o weithio
  • Dymuno sefydlu arfer cynhwysol ymhob rhan o’u gwaith
  • Gallu ymroi amser ac adnoddau staff i sicrhau y gallent fanteisio ar y rhaglen yn gyflawn

Rhaid i ddau aelod o staff o bob amgueddfa sydd yn cyfranogi fynychu er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyflawni penderfyniadau a chamau gweithredu yn fwy effeithiol o fewn eu sefydliad.

Rhaid i’ch amgueddfa wedi’i lleoli mewn un o’r ardaloedd canlynol: Dwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Ddwyrain Lloegr, Gogledd Orllewin Lloegr, De Orllewin Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Chymru.

Bydd amgueddfeydd nad ydynt yn NPO ac sydd yn Achrededig neu yn gweithio tuag at Achrediad yn cael blaenoriaeth.

Ymrwymiad

Mae’r rhaglen yn gofyn am ymrwymiad o un diwrnod o leiaf bob pythefnos o Dachwedd 2021 i Fawrth 2022, wedi’i rannu rhwng mynychu sesiynau, darllen pellach a thrafodaethau tîm. Rhaid i sefydliadau fod yn frwd i flaenoriaethu tegwch a chynhwysiant eu sefydliad, ymrwymo i fynychu pob sesiwn ac arwain trafodaethau â’u cydweithwyr yn eu sefydliadau.

Manylion Sesiynau Unigol:

Bydd pob sesiwn yn cael eu cynnal ar Zoom a bydd amgueddfeydd sydd yn cyfranogi yn cael eu rhannu i ddau garfan.

1 Beth yw Tegwch a Chynhwysiant ac asesu Tegwch a Chynhwysiant yn eich sefydliad

Carfan 1: Dydd Mawrth 2 Tachwedd, 10yb-4yh

Carfan 2: Dydd Mawrth 9 Tachwedd, 10yb-4yh

Yn y sesiwn gyntaf byddwn yn edrych ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, nodweddion gwarchodedig, Tegwch a Chynhwysiant y tu hwnt i’r Ddeddf Cydraddoldeb, terminoleg cynhwysol a defnydd iaith, datrefedigaethu amgueddfeydd, gweithredu cadarnhaol a gwahaniaethu cadarnhaol.

Bydd ail hanner y sesiwn yn canolbwyntio ar gefnogi amgueddfeydd i adlewyrchu ar ble mae Tegwch a Chynhwysiant yn ymddangos yn eich sefydliad yn nhermau: Llywodraethu; Gweithlu a Gwirfoddolwyr; Casgliadau; Rhaglennu; Monitro.

2 Cymorth Personol

Bydd y rhain yn digwydd ar Ddydd Mawrth 16 a Dydd Mawrth 23 Tachwedd

Sesiynau unigol gyda phob amgueddfa sy’n cyfranogi i weithio trwy hunan-asesu a deall eich cyd-destun ac anghenion eich hun yn well.

3 Cynnal Trafodaethau Anodd

Dydd Mawrth 30 Tachwedd

Carfan 1: 10yb-12.30yh

Carfan 2: 2yh-4.30yh

Trafodaethau yw’r cam cychwynnol o sefydlu arfer Teg a Chynhwysol yn eich sefydliad. Bydd y broses o ddod yn sefydliad mwy teg yn annog trafodaethau gyda’ch timau, cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid eraill.

4 Datrefedigaethu yr Amgueddfa

Dydd Mawrth 14 Rhagfyr

Carfan 1: 10yb-2.30yh

Carfan 2: 2yh-4.30yh

Beth yw datrefedigaethu’r amgueddfa yn ei olygu? Bydd y sesiwn hon yn eich hymgyfarwyddo â’r ystyr a’r cysyniadau o beth sydd yn cael ei alw yn gynyddol yn ddatrefedigaethu amgueddfa.

Mae’n trafod sut y mae amgueddfeydd wedi newid eu ffyrdd o ddehongli hanes a diwylliant, o flogio i arddangosfeydd; a’r disgwyliadau presennol arnynt i ystyried Tegwch a Chynhwysiant ymhellach yn eu sefydliad.

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys enghreifftiau o arfer diweddar i’ch hysbrydoli.

5 Pynciau dadleuol presennol mewn amgueddfeydd a sut i ymateb

Dydd Mawrth 11 Ionawr 2022

Carfan 1: 10yb-12.30yh

Carfan 2: 2yh-4.30yh

Mae llawer o bobl yn galw yn gryf am wella gwaith Tegwch a Chynhwysiant mewn amgueddfeydd, tra bod eraill yn feirniadol o hyn. Bydd y sesiwn hon yn crynhoi’r prif ddadleuon y gall amgueddfeydd ddod ar eu traws ac yn rhoi cyngor sylfaenol ar strategaethau cyfathrebu mewnol ac allanol.

6 Curadu gyda Chymunedau

Dydd Mawrth 25 Ionawr 2022

Carfan 1: 10yb-12.30yh

Carfan 2: 2yh-4.30yh

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar fodelau gwahanol o weithio gyda chymunedau fel: dylunio cydweithredol, ymchwil gyfranogol, dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl, cyllido torfol o gynnwys.

7 Dechrau eich Cynllun Gweithredu Tegwch a Chynhwysiant (E&I)

Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022

Carfan 1: 10yb-12.30yh

Carfan 2: 2yh-4.30yh

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar gynlluniau gweithredu E&I, yn archwilio i dempledi potensial a sut i’w datblygu.

Bydd cwblhau’r cynllun yn cymryd amser ac yn gofyn am drafodaethau gyda chydweithwyr ar bob lefel, o’r bwrdd i flaen y tŷ.

7A Cymorth unigol ar gyfer grwpiau o gymheiriaid

Bydd y rhain yn digwydd ar Ddydd Mawrth 15 Chwefror 2022

Bydd cyfranogwyr yn cael eu rhoi mewn grwpiau cymheiriaid o 2-3 amgueddfa a bydd pob grŵp yn cael sesiwn unigol i’w cefnogi wrth greu eu cynlluniau gweithredu E&I.

Bydd cynnwys sesiwn 8 a 9 yn cael ei adolygu yn dilyn y sesiynau unigol a byddent yn digwydd ar

Ddydd Mawrth 1 Mawrth 2022

Carfan 1: 10yb-12.30yh

Carfan 2: 2yh-4.30yh

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022

Carfan 1: 10yb-12.30yh

Carfan 2: 2yh-4.30yh

10 Sesiwn Derfynol: Adolygu cynnydd gyda chynlluniau gweithredu E&I, gwaith y dyfodol a bwrw ymlaen â grwpiau cymheiriaid

Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022

Carfan 1: 10yb-12.30yh

Carfan 2: 2yh-4.30yh

Bydd y sesiwn derfynol yn canolbwyntio ar roi pethau yn eu lle i barhau â’ch gwaith y tu hwnt i’r rhaglen.

Sut i ymgeisio

Ar ôl adolygu eich argaeledd i gymryd rhan, cysylltwch â Swyddog Datblygu eich Hamgueddfa os gwelwch yn dda, i drafod ymhellach cyn cwblhau’r ffurflen Mynegi Diddordeb (EOI)>>

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen EOI gyflawn yw 5yh, ar Ddydd Iau 21 Hydref 2021.

Mae MDUK yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd hygyrch a chynhwysol i’r sector ac mae cyllid penodol ar gael ganddynt i ateb unrhyw anghenion. Amlinellwch unrhyw fanylion yn eich ffruflen EOI os gwelwch yn dda.

Resources
21/09/2021 in Leadership & Culture EOI for Equity and Inclusion Programme Welsh

EOI for Equity and Inclusion Programme Welsh