Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru rydym wrth ein bodd i barhau i gynnig cymorth yn arbennig ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru.
Ymgyngoriaethau AIM Higher
Yn 2022-2024, cefnogwyd saith amgueddfa yng Nghymru gan AIM drwy ymgyngoriaethau byr. Mae’r rhain wedi cynnwys cymorth â chynllunio strategol a chodi arian, sefydlu ymddiriedolaeth ddatblygu newydd, adolygu llywodraethu yn gyffredinol a chymorth ar frys i amgueddfeydd sy’n wynebu cau.
Rydym yn cynnig wyth ymgynghoriaeth dau-ddiwrnod AIM Higher.
Mae cymorth hael AIM wedi bod yn hanfodol i ni.
Mae cymorth AIM wedi bod mor werthfawr i’n dyfodol. Bydd mentora’r ymgynghorydd, o’n helpu i nodi’r strwythur cyfreithiol gorau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Ddatblygu i’n cynghori ar gynnwys y gwrthrychau elusennol a’r cais ei hun, i gyd yn hwyluso ein cynnydd wrth sefydlu. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at ein cynaliadwyedd ar adeg pan fod hyn yn holl bwysig.
10 lle wedi eu clustnodi i Amgueddfeydd yng Nghymru ar raglenni AIM wedi eu cyllido gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, gan gynnwys rhaglenni arweinyddiaeth Spark! a rhaglenni mentora Aspire AIM, gweithdai cynefino Ymddiriedolwyr a Trustee 101.
NRW and Rising Leaders
Byddwn hefyd yn parhau â’n cymorth i arweinwyr amgueddfeydd yng Nghymru drwy’r Rhwydwaith i Atgyfnerthedd yng Nghymru a’r rhaglen Rising Leaders.