Mae Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol yn gyffrous i gyhoeddi bod ceisiadau ar agor ar gyfer rownd arall o’r Rhaglen Rising Leaders i Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yng Nghymru, gyda diolch i gyllid gan Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru.
Mae’r Rhaglen Rising Leaders wedi’i hanelu at bobl sy’n edrych ar gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa tuag at arweinyddiaeth. Bydd y cwrs yn eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau arwain a rheoli, drwy weithdai, diwrnod wyneb yn wyneb, setiau dysgu gweithredol a hyfforddi unigol. Bydd cynnwys y cwrs yn cael ei gadarnhau gyda’r carfan a ddewisir, ond byddai’n cynnwys pynciau fel; sgiliau negodi, datblygu arweinyddiaeth bersonol, cyfathrebu’n effeithiol a rheoli cyllid.
Mae ceisiadau ar agor i staff Amgueddfeydd ac Archifau achrededig, neu Lyfrgelloedd sy’n gweithio yng Nghymru, fodd bynnag bydd pobl and ydynt yn gweithio i sefydliadau cenedlaethol yn cael eu ffafrio.
Ffurflen gais (opens in a new tab)(os hoffech gael y ffurflen mewn fformat gwahanol, yna ebostiwch [email protected] os gwelwch yn dda.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis yn seiliedig ar eu ceisiadau a’r manteision y gellir eu dangos i’r unigolion a’u sefydliadau.
Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’w fynychu, gan gynnwys y diwrnod wyneb yn wyneb, a fydd ar Dydd Iau 6 Tachwedd ym Mangor, neu Dydd Mercher 22 Hydref yng Nghaerdydd.
Mae amser y diwrnod wyneb yn wyneb i’w gadarnhau ond byddent yn dechrau tua 9.30yb ac yn gorffen tua 4.30yh.
Bydd dyddiadau’r Setiau Dysgu Gweithredol yn cael eu cadarnhau unwaith y caiff cynigion i gyfranogi eu gwneud yn gynnar ym mis Hydref, ond byddent yn digwydd rhwng Rhagfyr a Chwefror.
Dyddiad cau: Dydd Sul 31 Awst, 5yh.
Sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod ar gael ar gyfer y dyddiadau hyn i gyd isod, gan ein bod yn disgwyl presenoldeb ymhob sesiwn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes angen unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch os gwelwch yn dda â Christine Andrews, Swyddog Rhaglenni a Digwyddiadau AIM: [email protected], neu ffoniwch 07784 359 485.
Dyddiadau’r Gweithdai
Wyneb yn wyneb:
- Caerdydd: Dydd Mercher 22 Hydref
- Bangor: Dydd Iau 6 Tachwedd
Arlein:
- Dydd Mawrth 9 Rhagfyr, 10.00 – 12.00
- Dydd Mercher 21 Ionawr, 10.00 – 12.00
- Dydd Iau 5 Mawrth, 10.00 – 12.00