Meithrin hyder i ofyn am roddion

Yn arbennig ar gyfer amgueddfeydd Cymru – Goresgyn yr ofn: Meithrin hyder i ofyn am roddion. 

Mae tystiolaeth yn dangos bod blychau rhoddion yn llawer mwy effeithiol pan fod ymwelwyr yn cael eu gofyn yn uniongyrchol i wneud rhodd. Nod y gweithdy ar-lein rhad ac am ddim hwn yw rhoi’r hyder i staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr ofyn i ymwelwyr am roddion trwy adeiladu ar y sgyrsiau naturiol sydd yn digwydd gyda nhw yn ystod eu hymweliad. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un mewn rôl sy’n delio wyneb yn wyneb ag ymwelwyr, neu’r rhai sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau ymwelwyr, rheoli gwirfoddolwyr neu godi arian. 

Wedi’i hwyluso gan Judy Niner, Partner yn Development Partners. Gyda diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. 

Pwy ddylai fynychu? 

Mae’r gweithdy ar-lein hwn ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru yn unig, ond nid oes rhaid i chi fod yn aelod o AIM i fynychu. Yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldeb am ofyn am roddion gan ymwelwyr, gweithio mewn gwasanaethau ymwelwyr, rheoli gwirfoddolwyr neu godi arian. 

Byddai hefyd yn hyfforddiant gwych i amgueddfeydd a dderbyniodd grant blwch rhoddion digyswllt gan AIM. 

Yn ddi-dâl i fynychu. 

Sut i archebu lle 

11am – 12.30pm Dydd Mawrth 30 Mehefin 

Cliciwch yma i archebu eich lle (opens in a new tab)

Gwesteiwr y weminar 

Mae Judy Niner wedi gweithio gyda nifer o amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth yn y DU, mawr a bach, gan ganolbwyntio’n bennaf ar godi arian a chynhyrchu incwm. Roedd hi’n un o ymddiriedolwyr Amgueddfa a Chanolfan Stori Roald Dahl a’r Waterways Trust. Ers 2011 mae hi wedi cadeirio bwrdd ymddiriedolwyr Fferm Cogges Manor yn Swydd Rydychen trwy gyfnod o oroesi a sefydlogi, gan baratoi’r sefydliad ar gyfer datblygiad cyffrous yn y dyfodol a chynaliadwyedd hirdymor.    

Don’t miss a thing!

Sign up to our weekly email for the latest news from AIM, including events, training, grants and resources.

* indicates required

You can change your preferences or opt out of hearing from us at any time using the unsubscribe link in our emails. Read our full privacy notice.

Join AIM: We support and provide practical help to independent museums

Be part of a thriving community

Grow your network, attend events, learn from like-minded people and share your knowledge with our community.

Save money and get funding

Apply for AIM member grants, get discounts, special offers, promotions etc.

Get additional support from experts

Our team of consultants and mentors can help you.
Become a member From as little as £73 a year

Already a member? Make the most of your benefits.