Yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector amgueddfeydd sydd ag ychydig neu ddim profiad codi arian sydd yn awyddus i ddysgu sut i wella codi arian yn eu hamgueddfa.
Wedi’u cynnal gan arbenigwr codi arian a sylfaenydd Development Partners, Judy Niner, bydd y sesiynau’n rhyngweithiol, gan roi cyfle i chi rwydweithio ag eraill mewn sefyllfa debyg a dysgu oddi wrthynt. Judy yw awdur Canllaw Llwyddiant Codi Arian AIM.
Ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru yn unig.
Beth i’w ddisgwyl
Bydd Sesiwn 1 yn ymdrin â sut i baratoi ar gyfer codi arian:
- Pa mor barod ydych chi i godi arian? Ydych chi’n barod i ofyn am arian; a yw pobl yn barod i roi i chi; beth sydd angen i chi ei gael cyn i chi ofyn.
- Ysgrifennu eich achos am gefnogaeth
- Eich strategaeth codi arian.
Bydd sesiwn 2 yn ymdrin â:
- Ffynonellau cyllid
- Stiwardiaeth
- Eich cynllun codi arian.
Ble a phryd
Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno mewn dwy ran – rhan 1 ddydd Mawrth 3 Tachwedd a rhan 2 ddydd Mawrth 10 Tachwedd. Bydd y ddwy sesiwn yn rhedeg rhwng 4-6pm a byddant yn cael eu cynnal ar Zoom.
Sut i archebu lle
Rydym yn gallu cynnig lleoedd am ddim i’r rhai sy’n gweithio mewn amgueddfeydd yng Nghymru diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.
I archebu eich lle, anfonwch e-bost at Christine Andrews, Swyddog Rhaglenni a Digwyddiadau yn [email protected]
Ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru yn unig. Am ddim i fynychu.