Yn arbennig ar gyfer amgueddfeydd Cymru – Goresgyn yr ofn: Meithrin hyder i ofyn am roddion.
Mae tystiolaeth yn dangos bod blychau rhoddion yn llawer mwy effeithiol pan fod ymwelwyr yn cael eu gofyn yn uniongyrchol i wneud rhodd. Nod y gweithdy ar-lein rhad ac am ddim hwn yw rhoi’r hyder i staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr ofyn i ymwelwyr am roddion trwy adeiladu ar y sgyrsiau naturiol sydd yn digwydd gyda nhw yn ystod eu hymweliad. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un mewn rôl sy’n delio wyneb yn wyneb ag ymwelwyr, neu’r rhai sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau ymwelwyr, rheoli gwirfoddolwyr neu godi arian.
Wedi’i hwyluso gan Judy Niner, Partner yn Development Partners. Gyda diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r gweithdy ar-lein hwn ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru yn unig, ond nid oes rhaid i chi fod yn aelod o AIM i fynychu. Yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldeb am ofyn am roddion gan ymwelwyr, gweithio mewn gwasanaethau ymwelwyr, rheoli gwirfoddolwyr neu godi arian.
Byddai hefyd yn hyfforddiant gwych i amgueddfeydd a dderbyniodd grant blwch rhoddion digyswllt gan AIM.
Yn ddi-dâl i fynychu.
Sut i archebu lle
11am – 12.30pm Dydd Mawrth 30 Mehefin
Cliciwch yma i archebu eich lle (opens in a new tab)Gwesteiwr y weminar
Mae Judy Niner wedi gweithio gyda nifer o amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth yn y DU, mawr a bach, gan ganolbwyntio’n bennaf ar godi arian a chynhyrchu incwm. Roedd hi’n un o ymddiriedolwyr Amgueddfa a Chanolfan Stori Roald Dahl a’r Waterways Trust. Ers 2011 mae hi wedi cadeirio bwrdd ymddiriedolwyr Fferm Cogges Manor yn Swydd Rydychen trwy gyfnod o oroesi a sefydlogi, gan baratoi’r sefydliad ar gyfer datblygiad cyffrous yn y dyfodol a chynaliadwyedd hirdymor.