Re:Collections – Anti Racist Museums Wales / Cyf: Casgliadau – Amgueddfeydd Gwrth-Hiliol Cymru

A new AIM project will provide support to museums in Wales to deliver the Culture, Heritage and Sport goals and actions in the Anti Racist Wales Action Plan (ARWAP).

We’re pleased to announce the launch of Re:Collections – Anti Racist Museums Wales to provide museums with bespoke consultancy, mentoring, workshops, grants and the chance to share experiences and learning. It builds on AIM’s experience supporting museums in addressing social inequalities through its Tackling Inequalities grants, and in developing and undertaking co-creation projects with under-represented audiences through its New Stories New Audiences funding.

We’ll be working with the Ahmed Iqbal Ullah Education Trust www.racearchive.org.uk. The Trust is a specialist library and archive, focusing on the study of race, migration and thinking about race; anti-racist activism and the fight for social justice. They are recognised as a centre of excellence in oral history work, Global Majority community-led collecting and ethical community engagement. They also have expertise in supporting cultural organisations to review their practice and build anti-racist organisations. The Trust will act as strategic advisor on the programme, and its recent research report on anti-racism and EDI in the heritage sector ‘If Nothing Changes, Nothing Changes’ (September 2022) will be a key resource in the development and delivery of the project.

Participants will benefit from workshops, consultancies and mentoring all focused on supporting museums to build the skills and confidence to meet the goals of the ARWAP, and grant funding will support museums to deliver projects that use these skills. Further details on the scheme, including the application process, will be published by AIM in December.

To register early interest and to find out more contact AIM Head of Programmes, margaret@aim-museums.co.uk

Bydd prosiect AIM newydd yn darparu cymorth i amgueddfeydd yng Nghymru gyflenwi nodau a chamau gweithredu Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol (ARWAP).

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi lansiad Cyf: Casgliadau – Amgueddfeydd Gwrth-Hiliol Cymru i ddarparu amgueddfeydd ag ymgynghoriaeth wedi’i theilwra, mentora, gweithdai, grantiau a’r cyfle i rannu profiadau a dysgu. Mae’n adeiladu ar brofiad AIM o roi cymorth i amgueddfeydd wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol drwy ei grantiau Taclo Anghydraddoldebau, ac wrth ddatblygu ac ymgymryd â phrosiectau cyd-greu gyda chynulleidfaoedd heb gynrychiolaeth ddigonol drwy ei chyllid Straeon Newydd Cynulleidfaoedd newydd.

Byddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Addysg Ahmed Iqbal Ullah www.racearchive.org.uk. Llyfrgell ac archif arbenigol yw’r Ymddiriedoloaeth, sydd yn canolbwyntio ar astudio hîl, ymfudiad, a meddwl am hîl; gweithredu gwrth-hiliol a’r frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol. Maent yn cael eu cydnabod fel canolfan ragoriaeth mewn gwaith hanes llafar, casglu Mwyafrif Bydol a arweinir gan y gymuned ac ymgysylltiad moesegol yn y gymuned. Mae ganddynt hefyd arbenigaeth mewn cefnogi sefydliadau diwylliannol i adolygu eu harferion ac i adeiladu sefydliadau gwrth-hiliol. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn ymddwyn fel cynghorydd straetegol ar y rhaglen, a bydd ei hadroddiad ymchwil diweddar ar wrth-hiliaeth ac EDI yn y sector treftadaeth ‘If Nothing Changes, Nothing Changes’ (Medi 2022) yn adnodd allweddol yn natblygiad a chyflenwad y prosiect.

Bydd cyfranogwyr yn manteisio o weithdai, ymgynghorwyr a mentora, gyda phob un yn canolbwyntio ar gefnogi amgueddfeydd i adeildu’r sgiliau a’r hyder i gyrraedd nodau’r ARWAP, a bydd cyllid grantiau yn gymorth i amgueddfeydd wrth gyflenwi prosiectau sydd yn defnyddio’r sgiliau hyn. Bydd AIM yn cyhoeddi rhagor o fanylion ar y cynllun, gan gynnwys y broses ymgeisio, ym mis Rhagfyr.

I gofrestru diddordeb cynnar ac i ddarganfod mwy, cysylltwch â Phennaeth Rhaglenni AIM, margaret@aim-museums.co.uk