Research into admissions pricing policy

New research and guidance on setting museum admission prices

Please scroll down to read this information in Welsh and for the link to the research findings in Welsh. 

In partnership with Arts Council England, Museums Galleries Scotland, the Welsh Government, the National Museum Directors’ Council, and Art Fund, AIM commissioned DC Research Ltd and Durnin Research Ltd to explore current admissions pricing policy in museums and their impact.

This new work updates related research AIM commissioned in 2016 and should help museums and galleries consider how they might optimise their income, position themselves effectively in the market, whilst maintaining their accessibility.

Those looking to the data will find a comprehensive and detailed overview of current charging approaches, useful benchmarking data and a range of case studies.

Alongside the in-depth research report, an accompanying Success Guide condenses crucial findings and is designed to help inform museums in the process of reviewing their pricing strategies. Key topics include the importance of business planning, 2023 pricing benchmarks, effective communication, audience targeting, and specific lessons for charging and non-charging institutions.

AIM Director Lisa Ollerhead said

”We’re delighted to have coordinated the production of this new and vital research and guidance. The breadth and detail of the findings, candour of the case studies and pragmatism of the Success Guide should prove invaluable to museum of all sizes.

The research emphasis on how pricing should align with an institution’s values, as well as its business planning, is welcome. It’s also testament to the sector’s agility to see that even in the midst of the challenge of the pandemic quick, adaptive decisions regarding pricing were possible.”

Click here to read the full research report>> 

Click here for the Executive Summary of the research report>> 

Click here for the Success Guide>>

Ymchwil a chanllaw newydd ar osod prisiau mynediad i amgueddfeydd

Comisiynwyd ymchwil gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol (AIM) mewn partneriaeth ag Arts Council England (ACE), Museums and Galleries Scotland (MGS), Llywodraeth Cymru, Cyngor y Cyfarwyddwyr Amgueddfeydd Cenedlaethol (NMDA) ac Art Fund, gan DC Research Ltd a Durnin Research Ltd i archwilio i’r polisi prisio mynediad presennol mewn amgueddfeydd a’i effaith.

Mae’r gwaith newydd hwn yn diweddaru ymchwil perthynol a gomisiynwyd gan AIM yn 2016, er mwyn helpu i amgueddfeydd ac orielau ystyried sut y gallent wneud y mwyaf o’u hincwm, a gosod eu hunain mewn safle effeithiol yn y farchnad, wrth gynnal eu hygyrchedd.

Bydd y bobl sydd yn edrych ar y data yn dod o hyd i drosolwg cynhwysfawr a manwl o ddulliau gweithredu codi tâl presennol, data meincnodi defnyddiol ac amrywiaeth o astudiaethau achos.

Gyda’r adroddiad ymchwil manwl, ceir Canllaw Llwyddiant i grynhoi’r canfyddiadau allweddol, sydd wedi’i ddylunio i helpu i hysbysu amgueddfeydd yn y broses o adolygu eu strategaethau prisio. Mae pynciau allweddol yn cynnwys y pwysigrwydd o gynllunio busnes, meincnodau prisio 2023, cyfathrebu effeithiol, targedu cynulleidfa, a gwersi penodol i sefydliadau sydd yn codi tâl a rhai nad ydynt yn codi tâl.

Dywedodd Cyfarwyddwr AIM Lisa Ollerhead,

”Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cydgysylltu cynhyrchiad yr ymchwil a chanllaw newydd a hanfodol bwysig yma. Dylai cwmpas a manylder y canfyddiadau, gonestrwydd yr astudiaethau achos a phragmatiaeth y Canllaw Llwyddiant fod yn hynod o werthfawr i amgueddfeydd o bob maint.

Rydym yn croesawu pwyslais yr ymchwil ar sut y dylai prisio alinio gyda gwerthoedd sefydliad, yn ogystal a’i gynllunio busnes. Mae’n dyst hefyd i hyblygrwydd y sector, i weld fod penderfyniadau addasol a chyflym ynglŷn â phrisio yn bosib, hyd yn oed yn ystod her y pandemig.”

Cliciwch yma i weld yr adroddiad ymchwil cyflawn>>

Cliciwch yma ar gyfer Crynodeb Gweithredol yr adroddiad ymchwil>>

Cliciwch yma ar gyfer y Canllaw Llwyddiant>>

Gweminarau ar y Gorwel

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi y bydd awduron yr adroddiad yn cyflwyno’r canfyddiadau mewn gweminar arbennig am 11yb ar 14 Rhagfyr. Cliciwch yma i archebu >>

Mae gweithdy di-dâl yn digwydd yn arbennig i aelodau AIM i archwilio i’r ymchwil ac argymhellion y Canllaw Llwyddiant am 11yb ar 25 Ionawr. Cliciwch yma i archebu>>