Cylchlythyr Ymddiriedolwyr AIM Ionawr 2023

Cynllunio ar gyfer adegau anodd

Mae amgueddfeydd annibynnol yn wynebu beth sy’n ymddangos i fod yn ‘storm berffaith’. Mae chwyddiant uchel yn ychwanegu’n sylweddol at gostau cynnal a rhedeg amgueddfeydd. Mae cyflogau sy’n gostwng (yn nhermau real) yn lleihau gallu i wario llawer o ymwelwyr. Mae cyllid awdurdod lleol yn parhau i gael ei wasgu gyda mwy o bwysau nag erioed ar unrhyw arian y gellir ei ystyried yn ddewisol. Ac wedyn, rhaid ystyried cyflwr yr economi mewn dirwasgiad, sy’n dal i deimlo effeithiau’r pandemig ac yn teimlo effaith Brexit caled yn gynyddol.

Mae’r amodau hyn yn lleihau gallu Ymddiriedolaethau a Sefydliadau elusennol a chorfforaethau i roi’r lefel o gymorth sydd angen ar y sector.

Mae’r arbenigwyr llywodraethu elusennau Hilary Barnard a Ruth Lesirge yn awgrymu bod yr amodau unigryw hyn yn cyflwyno pedwar opsiwn mawr i amgueddfeydd:

  • Lleihau
  • Tyfu
  • Cyfuno
  • Cau

Cliciwich yma i ddarllen rhagor>>

Cymorth i amgueddfeydd yng Nghymru

Rydym wrth ein bodd i gynnig y cymorth canlynol i ymddiriedolwyr unrhyw amgueddfa yng Nghymru, nid oes angen i chi fod yn aelod o AIM.

  • Cynefino ymddiriedolwyr amgueddfa – cyflwyniad hanfodol ac ymarferol i lywodraethu amgueddfeydd ac arferion gorau i ymddiriedolwyr newydd, neu ddiweddariad ar gyfer ymddiriedolwyr presennol.
  • AIM Higher – boed yn adolygu arferion da sylfaenol neu yn delio gyda heriau cymhleth, mae ein rhaglen gymorth llywodraethu AIM Higher yn cynnig y cyfle i weithio gydag un o’n hamrwyiaeth o ymgynghorwyr profiadol ac arbenigol.
  • Achrediad – a ydych yn amgueddfa heb Achrediad sydd eisiau bod yn Achrededig? Gall AIM roi cymorth i amgueddfeydd sydd yn weithredol ystyried Achrediad.
  • Cymorth argyfwng – Os ydych yn wynebu adegau heriol yn 2023, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda er mwyn i ni eich helpu.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor am gymorth i ymddiriedolwyr>>

Governance Now

Dydd Mercher 8 Chwefror, MAC Birmingham

Mae Governance Now, y gynhadledd flynyddol a gyflwynir gan Clore Leadership a’r Cultural Governance Alliance, yn archwilio i faterion hanfodol mewn llywodraethu diwylliannol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar sut y gall byrddau ac ymddiriedolwyr gefnogi ymateb sefydliadau diwylliannol i greu lleoedd ac agendâu gwladol ac yn cynnwys araith gyweirnod gan Gadeirydd AIM, Andrew Lovett.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy ac archebu lle>>

Swyddi gwag ymddiriedolwyr

Gweler gwefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr gan aelodau AIM ar draws y DU. A byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut y gallwch hysbysebu eich swyddi gwag ymddiriedolwyr eich hun gydag AIM.

Cliciwch yma ar gyfer y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr>>