Cylchlythyr Ymddiriredolwyr Ebrill 2023

Astudiaethau Achos y Llywodraeth

Am rai blynyddoedd, roedd gwariant Amgueddfa Storrington a’r Rhanbarth wedi bod yn fwy na’u hincwm. Gyda chymorth gan AIM Higher, gweithiodd y Pwyllgor gyda Judy Niner, ymgynghorydd codi arian, i archwilio i opsiynau cynyddu incwm. Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos >>

Wedi’i agor fel amgueddfa yn 2000, roedd Amgueddfa Stêm Kempton eisiau ehangu a gweithredu’n fwy proffesiynol. Gyda chymorth gan Marilyn Scott fel rhan o raglen AIM Higher, mae’r ymgynghorwyr wedi gallu gosod blaenoriaethau newydd a chael cynllun clir i dyfiant yn y dyfodol. Cliciwch yma i wylio’r astudiaeth achos >>

Arolwg Aelodaeth

Mae arolwg aelodaeth 2023 AIM yn awr ar agor ac rydym yn frwd i glywed safbwyntiau ein haelodau i gyd. Mae eich mewnbwn yn hanfodol i lywio a siapio’r gwaith y mae AIM yn ei wneud a’r cymorth rydym yn ei gynnig i chi fel aelod.

Bydd yr arolwg yn cymryd 10-15 munud i’w gwblhau, ac fel diolch bydd gennych y cyfle i ennill £30 o dalebau mewn raffl i’w gwario ar y stryd fawr.  Cliciwch yma i gwblhau’r arolwg >>

Cynhadledd

Mae Cynhadledd AIM 2023 yn digwydd ar 15 a 16 Mehefin yn Surgeon’s Quarter yng Nghaeredin. Byddwn yn archwilio i beth mae’n ei olygu i fod yn annibynnol yn sector amgueddfeydd heddiw, gan gynnwys beth y mae hyn ei olygu i lywodraethu. Mae cynrychiolwyr a siaradwyr yn dod o amrywiaeth o sefydliadau, cefndiroedd a rolau felly mae Cynhadledd AIM yn le delfrydol i bawb glywed am y tueddiadau diweddaraf a dysgu arferion gorau. Mae tocynnau cynnar ar gael i aelodau AIM ar gael tan 28 Ebrill.

Darganfyddwch ragor a phrynwch eich tocynnau >>

Swyddi gwag i Ymddiriedolwyr

Edrych am gyfle newydd fel ymddiriedolwyr? Gweler y swyddi gwag diweddaraf gan aelodau AIM ar draws y DU ar ein gwefan. A byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut y gallwch hysbysebu eich swyddi gwag i ymddiriedolwyr yn ddi-dâl gydag AIM. Cliciwch yma i weld y swyddi gwag i ymddiriedolwyr >>