Stay in touch with the latest news from AIM and get information on sector grants, jobs and events with our free fortnightly E-News.
Rhaglen gymorth llywodraethu AIM Higher – Cymru
Pa un a ydych yn adolygu arfer da sylfaenol neu yn delio â heriau cymhleth, mae rhaglen gymorth llywodraethu Byrddau sy’n Ffynnu AIM yn cynnig y cyfle i weithio gydag un o’n ymgynghorwyr profiadol ac arbenigol.
“Roedd cael barn arbenigol allanol yn ddefnyddiol iawn. Roedd gorfod meddwl am ac egluro’r llwyddiannau a’r problemau i rywun allanol heb unrhyw wybodaeth flaenorol hefyd yn ymarfer defnyddiol. Roedd y canllawiau a’r cymorth a oedd yn ganlyniad i hyn yn arbennig o werthfawr ac yn fanteisiol i’r ymddiriedolaeth ar gyfer y dyfodol.”
Cewch ymgeisio ar gyfer dau ddiwrnod o gymorth arlein gyda ffocws ar y meysydd canlynol:
- Cynllunio ar gyfer y dyfodol – archwilio sgiliau a chynllunio ar gyfer olyniaeth.
Cewch gymorth i adnabod cryfderau a gwagleoedd sgiliau, adolygu recriwtio presennol ac arferion olyniaeth a datblygu cynllun recriwtio ac olyniaeth er mwyn dod ag ymddiriedolwyr newydd i mewn a rheoli olyniaeth fwy hir dymor.
- Recriwtio Ymddiriedolwyr newydd neu recriwtio Cadeirydd Ymddiriedolwyr.
Gallwn eich helpu drwy gynghori ar a chefnogi gyda datblygu disgrifiadau rôl a manylebau person, pecyn recriwtio, hysbyseb a ffynonellau, a meini prawf ar gyfer dewis a chyfweld.
- Rhannu’r baich – rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr
Cyflwyno rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr, adolygu rolau unigol a chreu disgrifiadau rôl.
- Rhannu’r baich – dirprwyo effeithiol
Datblygu fframwaith dirprwyo cyson i is-bwyllgorau a staff amgueddfa a strwythurau adrodd atebol.
- Gwiriad iechyd – ydy’ch dogfen lywodraethu wedi ei diweddaru?
Cymorth i adolygu eich dogfen lywodraethu i sicrhau ei bod yn ateb gofyn eich sefyliad presennol.
- Cymorth i’r Cadeirydd
Hyfforddi a chymorth unigol ar gyfer Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr.
Gallwn hefyd ddarparu ymgynghorwyr mwy penodol wedi eu teilwra at eich anghenion felly os oes angen unrhyw gymorth arall ar eich Bwrdd Ymddiriedolwyr, yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Mae’r rhaglen yn agored i amgueddfeydd sydd yn aelodau o AIM yng Nghymru. Bydd amgueddfeydd sydd yn ymgeiswyr fel arfer naill ai yn Achrededig neu yn gweithio tuag at Achrediad. Gallwn hefyd gynnig cymorth i amgueddfeydd nad ydynt yn Achrededig ble y gallent ddangos y bydd y cymorth yn eu galluogi i symud ymlaen ac ymgeisio ar gyfer Achrediad. Rydym yn blaenoriaethu amgueddfeydd nad ydynt yn NPO’s.
Fel canlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gallu rhoi dau ddiwrnod o gymorth ymgynghorol yr un i dri aelod o AIM yng Nghymru. Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i’r felin caiff falu.
Sut y mae hyn yn gweithio?
Dylai amgueddfeydd sydd yn ystyried ymgeisio gysylltu â Margaret Harrison ar gyfer trafodaeth gychwynnol: [email protected].
Os ydym yn gallu cefnogi eich anghenion, byddwn yn trefnu trafodaeth gychwynnol gydag un o’n ymgynghorwyr ac ar ôl hyn byddwn yn gofyn wrthych am gwblhau ffurflen gais. Yn ogystal â manylion sylfaenol am eich amgueddfa, byddwn hefyd yn gofyn:
- Beth yw’r prif feysydd i ganolbwyntio arnynt er mwyn datblygu eich Bwrdd?
- Beth yw’r prif ganlyniad yr hoffech ei gyflawni?
- Beth yw cwmpas cytûn y gwaith gyda’r ymgynghorydd a’r amserlen ar gyfer hyn?
- Sut y byddwch yn sicrhau bod yr Ymddiriedolwyr i gyda yn ymgysylltu â’r broses hon?
Byddwn yn disgwyl i bob cais gael ei gefnogi gan Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr ac yn disgwyl hefyd y byddent yn cyfranogi yn yr ymgynghoriaeth.
Mae’r cyfnod i ymgeisio yn awr ar agor a bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i’r felin caiff falu. Bydd tri aelod o AIM yng Nghymru yn derbyn dau ddiwrnod yr un o gymorth ymgynghorol.
Bydd y Ceisiadau yn cael eu hasesu gan staff AIM ac yn cael eu hatgyfeirio at Fwrdd AIM lle bo’n briodol.
Bydd gofyn i’r ymgeiswyr llwyddiannus gadarnhau eu bod yn derbyn ein Telerau ac Amodau.
Ein hymgynghorwyr:
Rydym yn gweithio gydag ymgynghorwyr profiadol, wedi eu lleoli ar draws y DU, gydag amrywiaeth wahanol o sgiliau a phrofiad. Os hoffech weithio yn arbennig gydag ymgynghorydd penodol, yna gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.