Hiliaeth a gwrth-hiliaeth mewn amgueddfeydd

Cyflwyniad

Yn haf 2020, achoswyd ton ysgytwad o sioc o gwmpas y byd gan lofruddiaeth hiliol George Floyd yn Unol Daleithiau America – un yn unig o restr hir o lofruddiaethau tebyg. Yn y DU, gwelwyd cerflun Edward Colston y caethfasnachwr yn cael ei dynnu i lawr ym Mryste, yn erbyn cefndir o brotestio gwrth-hiliaeth a Black Lives Matter. Ymatebodd y sector treftadaeth gyda datganiadau o gefnogaeth ac undod, gyda llawer o sefydliadau treftadaeth yn gwneud datganiadau cyhoeddus yn cydnabod eu diffyg cynnydd o ran adeiladu gweithlu aml-ethnig a chyrraedd cymunedau’r Mwyafrif Byd-eang. Cafwyd datganiadau gan lawer o’u bwriad i “wneud yn well”, ac roedd trafodaethau am amrywiaethu, datrefediagethu a gwrth-hiliaeth yn gyffredin mewn cynadleddau a chyfarfodydd ar draws y sector.

Roedd llawer yn teimlo bod y trafodaethau hyn yn eu bywiogi a’u bod yn rhoi cyfeiriad a phwrpas newydd i’w gwaith. Roedd rhai yn teimlo’n ddiflas bod y materion a eiriolwyd drostynt ganddynt am ddegawdau wedi dod yn fri-eiriau. Roedd eraill wedi drysu gan y trafodaethau, ac yn teimlo’n ansicr o sut oedd hyn yn perthyn i waith eu hamgueddfeydd, neu yn ansicr o sut i fynd i’r afael â’r dyfroedd hyn a oedd yn newydd iddynt. Roedd rhai yn wrthwynebol.

Fel y sefydliad cymorth sector ar gyfer amgueddfeydd annibynnol, rydym yn gwybod bod y trafodaethau hyn yn gymhleth, a’u bod yn gallu drysu pobl sydd wedi dechrau meddwl am y materion hyn yn ddiweddar yn unig. Ein nod yma yw cyflwyno canllawiau rhagarweiniol ar wrth-hiliaeth, gan amlinellu beth yw hyn, a pham eu bod yn angenrheidiol, gan gyflwyno dulliau gweithredu gwahanol a chyfeirio at adnoddau defnyddiol.

Deall hiliaeth

Hiliaeth yw, yn sylfaenol, y cred fod pobl gwyn a’u ffordd o feddwl, eu diwylliant, systemau gwleidyddol, a’u hanes yn uwchraddol i rai “hiliau” gwahanol. Mae set gymhleth o gredoau hiliol, gyda “hiliau” gwahanol yn cael eu hystyried yn israddol mewn ffyrdd gwahanol, ond gyda Duder yn aml yn cael ei feirniadu fel y mwyaf israddol, cyntefig neu beryglus. Mae hiliaeth yn seiliedig ar anghydbwysedd grym, ble mae pobl, sefydliadau a chenhedloedd gwyn yn fwy grymus o lawer.

Mae’n bwysig deall y ffurfiau gwahanol o hiliaeth. Y mwyaf adnabyddus yw hiliaeth ryngbersonol; dyma ble mae gan bobl gwyn gredoau negyddol, ystrydebol neu wahaniaethol am bobl o ethnigrwyddau gwahanol. Gall y credoau hyn arwain atynt yn ymddwyn mewn ffyrdd hiliol amlwg ac agored, fel galw enwau, aflonyddu hiliol, ymddygiad gwahaniaethol neu drais. Mae tuedd anymwybodol yn agwedd llai agored o hiliaeth ryngbersonol, ond yn dal yn arwain at weithredu hiliol. Tuedd anymwybodol yw ble’r ydym yn ymddwyn neu yn berniadu yn seiliedig ar ein tueddiadau, canfyddiadau neu ddehongliadau isymwybodol a chynhenid. Nid yw’r tueddiadau a chanfyddiadau hyn yn unigol; maent wedi eu dylanwadu’n gryf gan, ac yn cyfymffurfio â, chredoau a syniadau hiliol cymdeithasol.

Mae Microymosodiadau yn ffurf gyffredin o hiliaeth ryngbersonol. Gweithredoedd neu ryngweithiadau yw’r rhain sydd yn ymddangos yn ddiniwed neu fel bod bwriad da, ond sydd yn ymgorffori hiliaeth mewn ffyrdd nad ydynt yn amlwg iawn. Mae enghreifftiau yn cynnwys camynganu enw rhywun drosodd a throsodd er gwaethaf pobl yn eich cywiro, neu ddweud wrth berson o liw sy’n gwisgo dillad nad ydynt yn orllewinol eu bod yn edrych yn “egsotig”. Gall y gweithredoedd hyn fod yn anfwriadol neu â bwriad da, fodd bynnag, gall eu heffaith unigol a chronnol fod yn sylweddol – disgrifir hyn yn aml fel “marwolaeth o fil o doriadau papur”.

Nid yw hiliaeth yn rhyngbersonol yn unig, a (gellir dadlau) bod mathau eraill o hiliaeth mwy grymus yn bodoli. Daeth y syniad o hiliaeth sefydliadol i’r amlwg  yn y drafodaeth gyhoeddus prif ffrwd gan Adroddiad Macpherson (yr adroddiad ar yr ymholiad cyfreithiol i lofruddiaeth Stephen Lawrence).

Mae Ambalavaner Sivanandan, Cyfarwyddwr yr Institute of Race relations y pryd, yn amlinellu cysylltiad uniongyrchol rhwng credoau personol ac ymddygiad sefydliadol: “Mae hiliaeth sefydliadol, yn gudd neu yn agored, yn bodoli mewn polisïau, gweithdrefnau, gweithrediadau a diwylliant sefydliadau cyhoeddus neu breifat – gan gryfhau rhagfarnau unigol a chael eu cryfhau ganddynt yn eu tro.”

Dyma’r hiliaeth sydd wedi’i hymwreiddio mewn sefydliadau a sut y maent yn ymddwyn, gan arwain at bolisïau, gweithdrefnau, diwylliant ac arferion sydd yn gweithio’n well i bobl gwyn. Mae hiliaeth sefydliadol yn arwain at hiliaeth strwythurol: effaith gronnol sefydliadau a systemau sefydliadol hiliol, ar lefel gymdeithasol yw hyn. Mae’n cynnwys systemau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd, addysgol a chyfreithiol.

Yn y mwyafrif o sefydliadau mae rhyngweithio cymhelth rhwng y mathau gwahanol o hiliaeth. Yn anffodus, mae hyfforddiant a gweithredu gwrth-hiliaeth gan amlaf yn canolbwyntio yn bennaf ar hiliaeth rhyngbersonol. 

Hiliaeth ac Amgueddfeydd

Mae llawer o’r casgliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw yn drefedigaethol eu tarddiad, ac rydym yn aml yn tynnu o gatalogau sydd yn cynnal meddwl trefedigaethol. Mae hanesion byd-eang yn aml yn anweladwy, ar wahân i ar adegau penodol fel yn ystod Mis Hanes Du neu Dde Asia; nid ydynt yn aml i’w gweld mewn arddangosfeydd parhaol.

Mae data yn dangos fod amgueddfeydd wedi methu ag ymgysylltu â chynulleidfaoedd y Mwyafrif Byd-eang a bod gweithlu’r sector yn anghymesur o wyn, yn enwedig mewn rolau uwch a mwy arbenigol. Nid yw hyn wedi gwella mewn unrhyw ffordd arwyddocaol, er gwaethaf mentrau, rhaglenni cyllido wedi eu targedu, a phwysau gan gyrff cyllido.

Amlygwyd y darlun anghyfforddus hwn o’r sector gan brosiect ymchwil Ymddiriedolaeth Addysg Ahmed Iqbal Ullah yn 2021 a oedd yn edrych ar waith Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn y sector treftadaeth. Mae’r adroddiad ymchwil If Nothing Changes, Nothing Changes yn amlinellu casgliadau sydd yn cofnodi dyfnder y broblem i’n sector.

Gallwn ymateb i’r data hyn mewn ffyrdd gwahanol. Un yw derbyn ein bod, mewn rhyw ffordd, yn atal pobl o’r Mwyafrif Byd-eang rhag ymuno â’r gweithlu ac atal y rhai sydd yn ymuno rhag ddatblygu i rolau arbenigol a/neu uwch. Hefyd, nad yw ein rhaglennu yn adlewyrchu diddordebau a phrofiadau cymunedau Mwyafrif Byd-eang a’n bod yn codi rhwystrau sydd yn eu hatal rhag ymgysylltu’n gyfforddus gyda’n cynnig.

Mae’n anghyfforddus i wynebu’r realiti hon, yn enwedig pan fod y mwyafrif ohonom yn gweld y sector yn chwarae rôl llesiannol ac addysgol hanfodol. Fodd bynnag, nid yw’n syndod wrth i ni gofio y sefydlwyd llawer o amgueddfeydd i gadw ac arddangos ysbeiliau trefedigaethu, ac i hyrwyddo diwylliant, hanes ac ideologau Prydeinig (ac Ewropeaidd) fel rhai uwchradd.

Casglwyd llawer o’n casgliadau gan bobl a wnaeth eu cyfoeth o’r fasnach Gaethweision Drawsiwerydd a thrwy dynnu adnoddau o wledydd trefedigaethol. Yn ogystal â hyn, nid yw’r sector wedi’i ynysu o safbwyntiau a chredoau cymdeithasol ehangach, a gyda gweithlu anghymesur o wyn, mae’n debygol y bydd y safbwyntiau cyfoes hiliol ac ystrydebol yn treiddio.

Os nad ydym yn derbyn hyn, beth yw’r goblygiad? Ar y gorau, rydym yn gwrthod cydnabod ein bod ni / ein sefydliadau yn chwarae rôl weithredol yn y darlun hwn a bod rhyw reswm arall, y tu hwnt i’n rheolaeth, am ein gweithlu a chynulleidfaoedd anghynrychioladol. Ar y gwaethaf, rydym yn awgrymu nad oes gan bobl y Mwyafrif Byd-eang y sgiliau na’r diddordeb i fod yn rhan o’r gweithlu ar bob lefel, a nad oes gan bobl y Mwyafrif Byd-eang ddiddordeb mewn amgueddfeydd. Mae hyn yn glir yn ffordd hiliol o feddwl.

Pam fod yn rhaid i amgueddfeydd weithredu i fod yn wrth-hiliol

Os ydym yn derbyn fod hiliaeth rhyngbersonol a sefydliadol yn y sector, yna mae anghenraid hanfodol, cyfreithiol a moesegol i weithredu, ac os nad yw cymryd y camau hynny yn arwain at y newidiadau dymunol, i werthuso a pharhau i weithredu nes bod gennym weithlu cynrychioladol ar bob lefel, ac nes bod ein cynulleidfaoedd yn adlewyrchu’r boblogaeth.

Diwedd y gân yw wrth gwrs fod anghenraid cyfreithiol i gymryd camau gweithredol gwrth-hiliaeth. Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn uniongyrchol neu yn aniongyrchol mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaethau. Mae achos busnes hefyd ar gyfer gwrth-hiliaeth gweithredol: mae cynulleidfaoedd amrywiol yn golygu cynnydd mewn cymorth gan wahanol rannau o’r gymuned; mae’n gwneud amgueddfeydd yn fwy deniadol i gyllidwyr hefyd. Mae nifer o astudiaethau hefyd gan y sector preifat sydd yn dangos fod gan gwmnïoedd sydd â thîmau amrywiol enillion ariannol uwch.

Mae gweithluoedd a chynulleidfaoedd amrywiol, a rhaglennu creadigol a chraff hefyd yn arwain at ragoriaeth greadigol. Yn syml, mae ein gwaith fel sector yn well os ydym yn cyflwyno hanesion amrywiol mewn ffyrdd newydd a dychmygus, ac yn dangos dewrder o ran sut yr ydym yn mynd i’r afael â hanesion trefedigaethol. Yn olaf, mae rhesymau moesegol: sut y gallwn barhau i or-wasanaethu rhannau penodol o’r boblogaeth ac eraill yn wael, o ystyried fod y mwyafrif ohonom yn dibynnu ar gyllido cyhoeddus? Yn niddordeb tegwch a chydraddoldeb, yna, rhai i ni weithredu.

Mae llawer o sefydliadau treftadaeth yn “optio allan”; gan feddwl nad oes llawer o angen i ymgysylltu â gwaith gwrth-hiliaeth, os ydynt wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwyn yn bennaf, yn enwedig o ran rhaglennu a gweithio gyda chasgliadau. Rydym yn eich hannog i newid eich ffordd o feddwl: rydym yn byw mewn gwlad sydd â hanes trefedigaethol. Os ydym eisiau adrodd straeon cywir a manwl gyda’r haenau cymhleth i gyd, yna ni allwn beidio â chynnwys hanesion byd-eang na thybio nad oes gan gynulleidfaoedd gwyn ddiddordeb ynddynt. Mae Re:Collections, rhaglen wrth-hilaeth AIM yng Nghymru, wedi arddangos fod gan wlad a ystyrir yn aml yn “wyn” yn nhermau ei hanes a’i phoblogaeth, gyfoeth o straeon rhyngwladol diddorol i’w hadrodd. 

Dulliau gweithredu Gwrth-hiliaeth

Yn hanesyddol, mae’r sector wedi gweithio gyda dulliau gwahanol gydag enwau fel “aml-ddiwylliannaeth”; “cyfleoedd cyfartal”; neu “amrywiaeth a chynhwysiant”. Disgrifir y rhain yn dda mewn Cyflwyniad i’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol, gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn sôn am gyfyngiadau rhai o’r dulliau gweithredu hyn.

Yn fwy diweddar, mae amrywiaethu a datrefedigaethu wedi dod yn dermau a ddefnyddir yn eang, (er y caiff y rhain eu defnyddio yn anghywir ac yn gyfnewidiol yn aml). Mae amrywiaethu yn cyfeirio at yr arfer o amrywiaethu’r status quo. Gall amrywiaethu casgliadau gynnwys nodi lleisiau a hanesion coll a cheisio mynd i’r afael â’r gwagle hwnnw. Mae llawer o amgueddfeydd yn gweithio ar amrywiaethu eu cynulleidfeydd, gan nodi pwy sy’n absennol a cheisio datrys hyn drwy ymgysylltiad, rhaglennu a phartneriaethau. Mae rhai amgueddfeydd yn cymryd camau gweithredol i amrywiaethu eu gweithlu, gan geisio cynnal cynlluniau a gweithgareddau i recriwtio a chadw pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol ac i sicrhau cynrychiolaeth ar bob lefel. Gall y gwaith pwysig a gwerthfawr hwn fod yn dameidiog, ac felly nid yw hyn yn aml yn arwain at newid strwythurol arwyddocaol, na symudiadau sylfaenol o ran cyfeiriad na ffyrdd o weithio.

Mae datrefedigaethu, ar y llaw arall, yn arfer radical os y caiff ei weithredu’n gywir, sydd yn ceisio datgymalu ac ailadeiladu’r strwythurau sydd yn cynnal y status quo. Mae datrefedigaethu casgliadau yn golygu cydnabod y rôl a chwaraewyd gan drefedigaethu o ran eu creu a’u rheoli, a chydnabod hefyd y trawma a achoswyd nid yn unig yn y ffordd y cafwyd y casgliadau eu caffael, ond hefyd o safbwynt y ffyrdd o’u rheoli a’u harddangos. Mae hyn yn galw am chwalu’r strwythurau grym sydd yn cynnal a pharhau meddwl trefedigaethol ac yn canoli gwynder. Bydd dull gweithredu sydd yn wir yn gwrth-ddatganoledig yn cynnwys y sefydliad cyfan – ni fydd prosiect sydd yn canolbwyntio ar un agwedd o waith amgueddfa yn arwain at y newid radical sydd angen ar datrefedigaethu.

Yn unol â drysu am derminoleg, mae iaith yn gyffredinol wedi dod yn ffynhonnell o bryder i’r sector. Fodd bynnag, mae If Nothing Changes, Nothing Changes yn disgrifio er bod gweithwyr y sector yn adrodd eu bod yn teimlo bod yr ofn o achosi tramgwydd trwy ddefnyddio’r iaith “anghywir” yn eu dal yn ôl, nid oedd hyn yn rhywbeth a adroddwyd gan sefydliadau cymunedol – roeddent yn fwy pryderus o lawer am arfer ymgysylltu gwan.

Mae Llywodraeth Cymru, mewn Cyflwyniad i’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol, yn cynnig disgrifiad defnyddiol o dulliau gweithredu hanesyddol i wrth-hiliaeth. Mae’n disgrifio gwrth-hiliaeth fel “….am newid y systemau, polisïau a phrosesau sydd wedi cynnwys agwedd negyddol at bobl ethnig leiafrifol.”

Yn ôl Wellcome “Gwrth-hiliaeth yw’r gwaith gweithredol i wrthwynebu hiliaeth ac i gynhyrchu cydraddoldeb hiliol – fel nad yw hunaniaeth hiliol yn ffactor rhagor sydd yn penderfynu sut y mae unrhyw un yn llwyddo mewn bywyd. Mae gwrth-hiliaeth yn golygu cefnogi polisi gwrth-hiliaeth drwy eich gweithredoedd. Polisi gwrth-hiliaeth yw unrhyw fesur sydd yn cynhyrchu neu yn cynnal cydraddoldeb hiliol rhwng grwpiau hiliol.”

Mae’r ddau ddiffiniad yn cyfeirio at weithredu a newid, er mwyn arwain at newidiadau cadarnhaol a chydraddoldeb hiliol. Mae If Nothing Changes, Nothing Changes (tud15) yn cynnig amlinelliad defnyddiol o ddulliau gweithredu gwrth-hiliaeth a ffyrdd o weithio i’r sector treftadaeth:

  • Adeiladu amrywiaeth ethnig ar bob lefel o weithlu’r sector ac ar draws rolau gwahanol
  • Cydweithredu moesegol a pharchus gyda grwpiau cymunedol
  • Creu gwagleoedd sydd yn groesawgar, cynhwysol, ac a ddefnyddir yn aml gan bobl y Mwyafrif Byd-eang
  • Rhaglennu a gwaith curadurol sydd yn trin hanesion y Mwyafrif Byd-eang fel o diddordeb ac yn berthnasol i bawb, yn ogystal â gwaith mwy penodol sydd wedi’i dargedu sy’n canolbwyntio ar hanesion a phrofiadau perthnasol
  • Archwiliad gonest a chadarn o darddiad ein casgliadau, tai ac asedau treftadaeth
  • Archwilio ailwladoli termau
  • Parodrwydd i fynd i’r afael â natur dinistriol treftadaeth a’r fasnach Gaethweision Drawsiwerydd
  • Cydnabod a diganoli safbwyntiau Ewroganolog a threfedigaethol
  • Adeiladu casgliadau mwy cyrychioladol sydd yn cynnwys lleisiau a safbwyntiau amrywiol.

Gweithredu

Canlyniadau nid bwriad sydd yn bwysig am wrth-hiliaeth. Gwelwyd llu o ddatganiadau bwriad yn addo “gwneud yn well” yn haf 2020, ond ychydig iawn o ddatganiadau a welwyd am y newidiadau cadarnhaol sydd yn ganlyniad iddynt. Mae beth yr ydych yn meddwl a chredu yn bwysig, ond mae’ch gweithredoedd (a’u heffaith) yn bwysicach fyth.

Mae If Nothing Changes, Nothing Changes yn amlinellu cyfres cynhwysfawr o argymhellion ymarferol. Rydym yn argymell fod unrhyw sefydliad treftadaeth sydd yn dymuno cymryd camau gwrth-hiliaeth ymarferol yn treulio amser i ystyried yr argymhellion hyn a sut i’w defnyddio yn eu cyd-destun.

Rydym yn cydnabod nad yw’n debygol fod unrhyw sefydliad, hyd yn oed rhai ag adnoddau digonol, yn gallu gweithredu ar bob mater. Felly, pwynt cychwyn da yw deall ble’r ydych ar hyn o bryd. Bydd cynnal adolygiad o arferion a diwylliant eich sefydliad yn dangos ble’r ydych yn llwyddo ac yn amlygu ble sydd angen sylw.Nid oes angen i’r adolygiad hwn fod yn brosiect anferth sydd angen adnoddau sylweddol, ond bydd cael rhyw fath o gymorth allanol yn ddefnyddiol. Gall ymgynghorydd arbenigol neu “gyfaill beirniadol” eich harwain drwy’r broses a herio’n allanol lle bo angen.

Mae’n bwysig, unwaith fod gennych syniad o’r sefyllfa bresennol, i gynllunio gyda gweithredoedd realistig ac i ddynodi adnoddau ar gyfer y gwaith hwn. Yn ôl If Nothing Changes, Nothing Changes er bod gan 75% o ymatebwyr i’r arolygiad ryw fath o ddatganiad cyfleoedd cyfartal, dim on 55% o’r rhain sydd â chynllun gweithredu cynorthwyol. Dim ond 14% o ymatebwyr oedd ag unrhyw fath o gyllid penodol ar gyfer gwaith gwrth-hiliaeth neu EDI. Mae amgueddfeydd yn annhebygol o wneud unrhyw gynnydd heb gynllun neu gyllid, waeth pa mor syml a chymedrol.

Mae’n bwysig hefyd i fynd i’r afael â hyn fel sefydliad cyfan. Mae llawer o sefydliadau treftadaeth yn cyfyngu eu gwaith gwrth-hiliaeth i ymgysylltiad cymunedol byr-dymor neu brosiectau dysgu, neu arddangosfeydd dros dro ar gyfer digwyddiadau neu fentrau penodol fel Mis Hanes Pobl Ddu. Gall prosiectau fel hyn gynhyrchu gwaith gwych yn aml, ond bydd dull gweithredu cyfannol bob amser yn cael effaith mwy sylweddol a pharhaus. Mae’n bwysig meddwl am wrth-hilliaeth ar draws y sefydliad cyfan. Er enghraifft, mae’n bosib eich bod yn gweithio’n galed ar adeiladu perthynas foesegol gyda phartneriaid cymunedol, ond ydych wedi ystyried a fydd eich systemau ariannol yn eich caniatau i chi dalu am eu harbenigedd a’u cymorth? Ydy’ch caffi yn cynnig bwyd kosher neu halal, sy’n golygu y gallwch groesawu aelodau eu cymuned yn hyderus?

Casgliad

Er ei fod yn anghyfforddus iawn i gydnabod fod ein sector yn cynnal syniadau a strwythurau hiliol, mae cyfleoedd cyffrous hefyd o ran ein gweithredu i wrthwynebu’r rhain. Gall fod angen i amgueddfeydd fuddsoddi amser ac adnoddau i’r gwaith hwn, a gall fod angen newidiadau sylfaenol yn eu ffordd o feddwl a gweithredu, ond bydd hyn yn arwain at fanteision creadigol, busnes a moesegol.

Ni fydd adeiladu sefydliad gwrth-hiliaeth yn digwydd dros nos, ond mae’n bwysig ein bod yn cofio, fel sector, nad yw’r gwaith hwn yn ddewisol – dylai hyn fod yn graidd i’n gwaith, yn unol â gweithrededd gwrth-wahaniaethu eraill. Ar ben popeth, rhaid i ni symud o ddatganiadau o fwriad i weithredu sydd yn arwain at newid cadarnhaol. 

Adnoddau defnyddiol

Anti-Racist Description Methods gan Archives for Black Lives Philadelphia. Argymhellion ymarferol iawn ar gyfer catalogio gwrth-hiliaeth.

Words Matter: Word Choices in the Cultural Sector Archwiliad diddorol i iaith a therminoleg y ceir dadlau yn ei gylch yn y sector treftadaeth (Africa Museum, Netherlands)

Mae Wellcome Trust wedi rhannu eu fframwaith gwrth-hiliaeth i arweinwyr. Mae hyn yn cynnig dull gweithredu sefydliad cyfan i adeiladu sefydliad gwrth-hiliaeth https://wellcome.org/what-we-do/diversity-and-inclusion/wellcomes-anti-racist-principles-and-toolkit

Archwiliad diddorol o heriau cais amgueddfa i weithredu yn datrefedigaethol wrth ddatblygu arddangosfa newydd The museum will not be decolonised – Media Diversified

Mae Hold On. Diversity and Management in the Arts yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i weithlu anghynrychioladol y sector diwylliant, a beth y gellir ei wneud i daclo hyn. https://static1.squarespace.com/static/5c18e090b40b9d6b43b093d8/t/5fb6967ab3db4d4323bf1f77/1605801598364/Hold+on+Inc+Arts+V19+FINAL+FULL+REPORT.pdf

Cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ac adnoddau eraill Cymdeithas yr Amgueddfeydd Museums and anti-racism – Museums Association

Mae’r ddogfen hon, o Museum Development UK, yn cynnig amrywiaeth o adnoddau sydd yn perthyn i, nid hîl a hiliaeth yn unig, ond hefyd i ffurfiau eraill o wahaniaethu. Equity and Diversity for Museums https://mduk.org.uk/wp-content/uploads/2022/01/Equity-and-Inclusion-Resources-FINAL.pdf