Cylchlythyr Ymddiriedolwyr AIM Chwefror 2022

Archebwch le yn awr ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol AIM 2022

Mae tocynnau ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol AIM 2022 yn awr ar werth, gyda chyfraddau cynnar arbennig ar gyfer aelodau AIM. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymddiriedolwyr amgueddfeydd i Port Sunlight ar y Wirral ar 16 ac 17 Mehefin. Bydd thema cynhadledd eleni ‘Gwneud iddo ddigwydd’ yn gweld cydweithwyr o hyd a lled y DU yn archwilio’r weledigaeth i amgueddfeydd annibynnol wrth i ni symud ymlaen o heriau’r pandemig, a byddwch yn darganfod sesiynau yn arbennig ar gyfer ymddiredolwyr o fewn y rhaglen.

Gweler rhagor o fanylion y rhaglen ac archebwch docynnau yma>>

Recriwtio ymddiriedolwyr newydd

Os ydy recriwtio ymddiriedolwyr yn ymddangos ar eich rhestr o bethau i’w gwneud ar gyfer 2022, cymerwch gipolwg ar ein canllaw i fyrddau ‘Cynnal proses recriwtio agored’. Mae’r canllaw byr hwn yn rhoi cyngor syml ac ymarferol i chi ar sut i benderfynu ar y sgiliau sydd angen arnoch, sut i hysbysebu ar gyfer yr ymgeiswyr gorau, a sut i wneud rhestri byr a chyfweliadau.

Cliciwch yma i ddarllen canllaw AIM ar gynnal proses recriwtio agored>>

Cyfarfodydd mwy effeithiol

Wrth i chi gynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd ar y gorwel, mae hyn yn adeg delfrydol i adolygu eich cyfarfodydd bwrdd er mwyn sicrhau bod pawb yn ymgysylltu ac yn gweithio’n effeithiol fel tîm. Cymerwch gipolwg ar ein canllaw i fyrddau ‘Cyfarfodydd mwy effeithiol’, sydd yn cynnwys argymhellion i wella unrhyw gyfarfod, gyda fframwaith i gynnig dull gweithredu newydd sbon wrth gynnal eich cyfarfodydd.

Cliciwch yma i ddarllen canllaw AIM i gyfarfodydd mwy effeithiol>>

Hallmarks Gartref

Mae ein digwyddiadau Hallmarks Gartref i gyd ar agor i ymddiriedolwyr aelodau o AIM. Cymerwch gipolwg ar ein hamserlen digwyddiadau ac archebwch le. Mae’r digwyddiadau i gyd yn ddi-dâl i’w mynychu ac yn digwydd ar Zoom.

Cliciwch yma i weld yr Hallmarks Gartref sydd wedi eu trefnu>>

Swyddi gwag ymddiriedolwyr

Gweler gwefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr gan aelodau AIM ar draws y DU. A byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut y gallwch hysbysebu eich swyddi gwag ymddiriedolwyr eich hun gydag AIM.

Cliciwch yma ar gyfer y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr>>

Dyddiad i’ch dyddiadur

Byddwn yn cynnal ein gweithdy cynefino ymddiriedolwyr nesaf ar Ddydd Llun 16 a Dydd Mawrth 31 Mai, a bydd y ddwy sesiwn ar lein o 5yh – 7yh. Cadwch lygad agored ar gyfer rhagor o fanylion ar wefan AIM yn fuan.