Cylchlythyr Ymddiriedolwyr AIM Tachwedd 2023

Adeiladu bwrdd amrywiol

Mae adeiladu bwrdd amrywiol yn rhan hanfodol o gyflawni’r cydbwysedd rhwng sgiliau proffesiynol craidd a phrofiad strategol ehangach. Mae cynyddu amrywiaeth anweithredol yn flaenoriaeth allweddol i Minerva, cyflenwr cyswllt AIM. Yn yr erthygl hon, mae Ben Tucker, Partner ym Minerva, yn egluro sut y gallent eich helpu i wella amrywiaeth eich ymddiriedolwyr.

Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl>>

Rhaglen newydd i Ymddiriedolwyr

Nod y rhaglen ‘Spark!’ ddiweddaraf yw cefnogi ymddiriedolwyr amgueddfeydd a gynhelir gan wirfoddolwyr i gryfhau eu dulliau datrys problemau ac adeiladu rhwydweithiau cymorth a chefnogaeth. Bydd cyfranogwyr yn gweithio drwy gyfres o weithdai arlein, setiau o ddysgu gweithredol a sesiynau hyfforddi unigol. Mae’r rhaglen yn ddi-dâl i’w mynychu ond mae nifer y llefydd sydd ar gael yn gyfyngedig. Ymgeisiwch erbyn 8 Ionawr.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor ac ymgeisio>>

101 Ymddiriedolwyr Treftadaeth

Ymunwch â thîm AIM a mwy yn y digwyddiad peilot hwn, sy’n ddelfrydol ar gyfer ymddiriedolwyr potensial sydd ar hyn o bryd yn gweithio o fewn y sector ac yn ceisio deall y rôl o Ymddiriedolwyr a’r sgiliau a’r ymrwymiad sydd angen ar gyfer llwyddiant yn well. Mae’r sesiwn hefyd yn ddelfrydol ar gyfer pobl y tu allan i’r sector, sydd yn ceisio deall materion allweddol llywodraethu yn well, a’r realiti o waith y Bwrdd mewn amgueddfeydd.

Gan weithio o fewn partneriaeth Museum Development a gyda chefnogaeth Trustees Unlimited, bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Caergrawnt ar 28 Tachwedd. Mae’r digwyddiad hwn yn ddi-dâl ond bydd angen i chi archebu eich lle o flaen llaw.

Darganfyddwch fwy>>

Astudiaethau achos

Mae aelodau AIM yn hael o ran rhannu eu profiadau o wella llywodraethu eu hamgueddfeydd. Mae gennym arywiaeth o astudiaethau achos gan amgueddfeydd o hyd a lled y DU sydd ar gael i chi eu gwylio a dysgu o’r heriau niferus ‘rydym wedi cefnogi aelodau gyda nhw drwy’r rhaglen AIM Higher.

Cliciwch yma i wylio’r astudiaethau achos llywodraethu ar YouTube>>

Cwrs cynefino i ymddiriedolwyr amgueddfeydd Cymru

20 Chwefror & 5 Mawrth 2024

Cyflwyniad hanfodol ac ymarferol i lywodraethu amgueddfeydd ac arferion gorau i ymddiriedolwyr newydd neu fel cwrs gloywi i lywodraethwyr presennol. Ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cwrs hwn yn ddi-dâl ac yn agored i aelodau a sefydliadau nad ydynt yn aelodau o AIM yng Nghymru. 

Darganfyddwch fwy>>

Swyddi gwag ymddiriedolwyr

Gweler gwefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr gan aelodau AIM ar draws y DU. A byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut y gallwch hysbysebu eich swyddi gwag ymddiriedolwyr eich hun gydag AIM.

Cliciwch yma ar gyfer y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr>>