Cylchlythyr Ymddiriedolwyr Tachwedd 2022

Canllawiau Llwyddiant Newydd

Mae Tri Chanllaw Llwyddiant wedi cael eu cyhoeddi ar wefan AIM:

  • Sefydlu amgueddfa newydd – ar gyfer pobl sydd yn ystyried sefydlu amgueddfa newydd yn y DU. Mae’r canllaw hwn wedi’i strwythuro o amgylch Hallmarks AIM, rhestr wirio ardderchog i gynllunio eich dabtlygiad.
  • Arddangosfeydd Amgueddfa a’u Dadansoddiad – sicrhau safbwynt strategol i ddadansoddiad – hyd yn oed os ydych yn cynllunio un arddangosfa, rhaid i chi ystyried sut y mae’n gweddu i weddill yr amgueddfa, sut y byddai’n cyfathrebu gyda’ch cynulleidfaoedd a pha stori yr ydych yn ceisio ei hadrodd.
  • Codi Arian – bwriad hwn yw helpu i amgueddfeydd o faint bach a chymhedrol fod mor llwyddiannus â phosib wrth godi arian. Mae’r canllaw hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n gweithio mewn amgueddfa, staff a gwirfoddolwyr, gan fod rôl i bawb yn y broses codi arian.

Cliciwch yma ar gyfer y rhain a phob Canllaw Llwyddiant AIM arall>>

Cyfleoedd i Amgueddfeydd yng Nghymru

Rydym wrth ein bodd i gynnig dwy raglen ddi-dâl o gymorth i ymddiriedolwyr amgueddfeydd yng Nghymru, gyda diolch i gyllid Is-adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru:

  • Cynllunio ar gyfer olyniaeth – bydd y rhaglen fer hon yn sôn am arferion gorau cynllunio ar gyfer olyniaeth gan ymddiriedolwyr ac yn eich helpu i ystyried anghenion eich amgueddfa yn y dyfodol. Mae chwech lle ar gael, a’r dyddiad cau i ymgeisio yw 15 Rhagfyr.
  • Cwrs cynefino ymddiriedolwyr – mae’r gweithdy dwy-ran hwn yn gyflwyniad hanfodol ac ymarferol i lywodraethu amgueddfeydd ac arferion gorau i ymddiriedolwyr amgueddfeydd yng Ngymru. Mae’n digwydd arlein ar 24 Ionawr a 7 Chwefror.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y ddwy raglen hon>>

Astudiaeth Achos – Amgueddfa Corwen

I fynd gyda’n Canllaw Llwyddiant newydd ar Sefydlu amgueddfa newydd, cawsom drafodaeth â Lindsay Watkins, Ymddiriedolwr a Gwirfoddolwr yn Amgueddfa Corwen, am beth y maent wedi dysgu a’r gwersi pwysicaf i’w rhannu gydag unrhyw un arall sy’n sefydlu amgueddfa newydd.  Crewyd Cymdeithas Dreftadaeth a Diwylliannol Edeyrnion yn 2012 i ddweud straeon lleol i ymwelwyr a oedd yn cyrraedd Corwen ar reilffordd Llangollen. Agorwyd Amgueddfa Corwen gan y Gymdeithas yn 2015.

Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos>>

Swyddi Gwag i Ymddiriedolwyr

Gweler gwefan AIM i weld y swyddi gwag diweddaraf o amgueddfeydd ar draws y DU. Byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut i hysbysebu eich swyddi gwag eich hun i ymddiriedolwyr yn ddi-dâl gydag AIM.

Cliciwch yma i weld y swyddi gwag i ymddiriedolwyr>>