Cylchlythyr Ymddiriedolwyr AIM – Tachwedd 2021

Yr wythnos hon yw Wythnos yr Ymddiriedolwyr, y digwyddiad blynyddol sydd yn amlygu gwaith gwych y 700,000 o ymddiriedolwyr gwirfoddol sydd yn cynnal elusennau ar draws Cymru a Lloegr.

Rydym yn dathlu’r digwyddiad gyda chrynodeb o’r manteision sydd ar gael i ymddiriedolwyr aelodau AIM, gyda’r newyddion diweddaraf i ymddiriedolwyr amgueddfa.

Hallmarks Gartref

Mae’r Hallmarks Gartref olaf o 2021 yn awr ar agor i aelodau AIM, gan gynnwys ymddiriedolwyr:

  • 17 Tachwedd – O iaith i arfer; gweithio’n foesegol gyda chymunedau a chasgliadau byd-eang – mae’r sesiwn gyfranogol hon yn ddelfrydol i unrhyw un sydd yn meddwl am ymgeisio ar gyfer grant Hallmark Taclo Anghydraddoldebau AIM
  • 18 Tachwedd – Pwrpas: Darganfyddwch eich pam

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor ac i archebu lle >>

Adnoddau AIM i Ymddiriedolwyr

Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn amser gwych i ailymweld â’r elfennau sylfaenol o lywodraethu da yn eich hamgueddfa. Dyma ddau yn unig o adnoddau AIM a fydd o bosib yn ddefnyddiol i chi:

  • Oes gennych ddisgrifiadau rôl cytûn yn eich hamgueddfa ar gyfer yr Ymddiriedolwyr? Edrychwch ar ein disgrifiad rôl ar gyfer ymddiriedolwr amgueddfa y gallwch ei addasu ar gyfer eich hamgylchiadau penodol. Cliciwch yma ar gyfer y disgrifiad rôl >>
  • A ydych wedi gwneud arfarniad sgiliau o’ch Bwrdd? Dechreuwch gyda’n fframwaith ar gyfer adolygiad ymddiriedolwyr a fydd yn eich cymryd trwy’r broses, cam wrth gam. Cliciwch yma ar gyfer fframwaith yr adolygiad >>

Llywodraethu yn Awr 2021

Mae 2021 yn gweld Llywodraethu yn Awr yn dychwelyd ar gyfer pedwaredd cynhadledd flynyddol i ymddiriedolwyr a gweithwyr proffesiynol y sector diwylliannol, wedi’i chyflwyno gan Clore Leadership a’r Gynghrair Llywodraethu Diwylliannol gydag Inc. Arts a Chyngor Celfyddydau Lloegr.

Cliciwch yma i gofrestru, i archebu tocyn a chael mynediad i amserlen y digwyddiad hyd yn hyn >>

Swyddi gwag i Ymddiriedolwyr

Gweler gwefan AIM i weld manylion y swyddi gwag diweddaraf i ymddiriedolwyr gan aelodau AIM ar draws y DU. Cewch fanylion hefyd am sut i hysbysebu eich swyddi gwag eich hun i ymmdiriedolwyr gydag AIM.

Cliciwch yma ar gyfer swyddi gwag i ymddiriedolwyr >>

Wythnos NCVO ac Ymddiriedolwyr 2021 

Mae NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol), un o bartneriaid trefnu Wythnos yr Ymddiriedolwyr, yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a chynnwys di-dâl yr wythnos hon, sydd wedi eu dylunio i gefnogi byrddau a rhannu gwersi allweddol.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy>>